Siom Pwyllgor Neuadd Gymunedol Cellan

gan lena daniel
www.millenniumhallcellan.co.uk
www.millenniumhallcellan.co.uk

Wrth i glwb tenis bwrdd pentref Cellan ymgynnull yn y Neuadd fore Mercher diwethaf fe sylweddolwyd, gyda thristwch mawr, fod lladrad wedi digwydd yno. Fe ffoniwyd yr Heddlu ar unwaith ac o fewn dim amser deallwyd fod deunydd ffilmio’r Gymuned wedi cael ei ddwyn dros nos.

Fel mae rhai ohonoch chi’n gwybod mae Clwb Ffilmio yn y pentref bob yn ail nos Wener ac mae tyrfa yn dod o bell ac agos i weld y ffilmiau diweddaraf ar y sgrin fawr y gwnaeth y pwyllgor weithio’n galed i godi arian tuag ati.

Siaradwraig ar ran pwyllgor neuadd y pentref yw Chris Lambert a mynegodd hi siom a hefyd dicter am y newyddion annisgwyl. Mi gadarnhaodd fod 5 uwchseinydd, chwaraewr DVD, remote controls a system newydd cylch clywed a oedd ond wedi’i osod yn ei le ym mis Chwefror, wedi eu dwyn o’r Neuadd. Aeth ymlaen i ganmol gwaith trylwyr yr Heddlu wrth iddynt fynd â thystiolaeth fforensic ac astudio tystiolaeth camera cylch cyfyng i ddarganfod mwy am y lladrad. Roedd Chris yn methu deall pam fod y lleidr/lladron heb ddwyn y projector a fyddai’n anghenreidiol i gael popeth arall i weithio yn iawn. Am y rheswm hyn mae’n credu y bydd yn rhaid i’r troswddwr/wyr werthu’r cyfan ac mae’n holi i bawb fod yn wyliadwrus – “byddwch yn llygaid a chlustiau” oedd ei apêl.

Os welodd neu glywodd unrhywun rywbeth a allai hepu’r Heddlu gyda’u hymchwiliadau yna mae croeso i chi ffono 101 gyda’r manylion.

Yn anffodus oherwydd y newyddion diflas yma rhaid gohirio’r ffilm (am y tedi bêr bach colledig) a oedd i fod cael ei ddarlledu nos Wener, Gorffennaf y 3ydd. Mae’r pwyllgor bach yn mawr obeithio ail agor ar Orffennaf 17 (ffilm am yr ail ymweliad i’r gwesty enwog allan yn India).

Mae pobl fel Chris Lambert wedi gweithio’n galed iawn dros bentref Cellan ar hyd y blynyddoedd a rhaid cydymdeimlo gyda hi a’r pwyllgor am y digwyddiad ofnadwy yma. “Dyma”, medd Chris, “oedd diwrnod mwyaf trist 14 blynedd o hanes y Neuadd. ‘Rydym wedi cael amseroedd da iawn yma, a gobeithio bod mwy i ddod – ond teimlad digalon yw meddwl fod yna bobol o gwmpas sydd ddim yn rhannu yr un gwerthoedd â ni ac yn chwalu gobeithion dyfodol y Gymuned.”