Taith Cymdeithas Bethel Parcyrhos

gan Alun Jones
Aelodau'r Gymdeithas ar daith
Aelodau’r Gymdeithas ar daith

Daeth taith gudd Llywyddion y Gymdeithas i’r amlwg fore Sul y 14eg o Fehefin drwy gael cylchdaith o amgylch De Ceredigion.

Teithio o Lanbed am Neuaddlwyd ac aros wrth Gapel Neuaddlwyd ac edrych ar yr hysbysfwrdd a’r gof-golofn. Mae hanes diddorol wedi’i cofnodi arni sef coffâd am y Parch Thomas Phillips, Athro yr Academi, a’r Parch William Evans. Ochr chwith y cofnod am y Cenhadon aeth allan i Fadagascar, sef Thomas a Mary Bevan a David Jones. Yn anffodus dim ond blwyddyn o wasanaeth roddodd Thomas a Mary gan iddynt golli eu hiechyd a buont farw. Gwasanaethodd David Jones am 33 mlynedd ar yr Ynys. Ar yr ochor dde mae cofnod am 16 o weinidogion a gafodd eu codi i fynd i’r weinidogaeth o Gapel Neuaddlwyd.

Symud ymlaen am yr arfordir gan ymweld ag Eglwys Dewi Sant, Henfynyw ac wrth y fynedfa i’r fynwent mae “lychget” pwrpasol a  diddorol, gyda gwybodaeth eang o hanes yr Eglwys yn dyddio nôl i Dewi Sant.  Y fynwent yn tynnu llygad wrth weld cymaint o feddau morwyr a’u criw, llawer wedi colli eu bywyd ar y môr, a ffurf morwrol y cerrig beddau yn adlewyrchu hynny.

Erbyn hyn roeddem yn barod am ginio felly mlaen i Gaffi’r Emlyn Tanygroes, cael croeso mawr a llond bol i fwyta. Ein ymweliad nesaf oedd Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym Mlaenannerch. Dyma Gapel y Diwygiad 1904-05 pan deimlodd Mr Evan Roberts fod yr Arglwydd yn galw arno. Wrth edrych ar y côr lle roedd Mr Evan Roberts yn eistedd, daeth emyn y Parch J J Williams i’r cof (emyn 596 yn Caneuon Ffydd): ‘O, disgyn Ysbryd Glan, o’r nefoedd wen i lawr i gynnau’r dwyfol dan yn ein calonnau nawr’. Roedd pawb yn gwerthfawrogi yr ymweliad hwn.

Ein cyrchfan nesaf oedd Hen Eglwys y Plwyf, Manordeifi. Tybir fod ’na Eglwys yma yn y flwyddyn 600 OC ac wedi ei chysegru i Sant Llawddog, ond pan drefnwyd y plwyfi cafodd ei hail gysegru yn Eglwys Dewi Sant. Llawer o hanes Uchelwyr y fro y tu fewn a’r tu allan, gweld carreg fedd y bardd John Blackwell BA  [Alun], Rheithor yr Egwys 1833-40. Perthyn yr Eglwys heddiw i Gymdeithas Friends of Friendless Churches.

Eric mewn cwrwcl
Eric mewn cwrwcl

Wrth deithio nôl am Lechryd gweld olion camlas oedd yn cario dŵr i waith tin Castell Malgwyn, a oedd yn ei fri rhwng 1770 -1810.  Gan fod llanw’r môr yn dod i fyny i Lechryd defnyddiwyd Afon Teifi ar gyfer cario deunydd crai i wneud tin.

Daeth ein taith i ben yng Nghenarth drwy ymweld ag amgueddfa’r cwrwglau a chawsom hanes diddorol gan dywysydd yno. Gorffenwyd y daith gyda the yn Nhŷ Te Cenarth. Diolch yn fawr i Avril ac Eric am daith ddiddorol iawn ac am dymor llwyddianus i’r gymdeithas.