Taith Cymdeithas Edward Llwyd yn y Fro

gan Alun Jones

Dyma hanes un o deithiau cerdded diddorol a wnes gyda Chymdeithas Edward Llwyd ym Mro Morganwg.

Cylchdaith yn olrhain hanes Edward Williams neu Iolo Morganwg, a chestyll y fro.

_DSC0002-7Ganwyd Iolo yn Pen-onn yn 1747 ym mlwyf Llancarfan ond yn Trefflemin y buodd y teulu fwyaf. Cerdded drwy dref y Bontfaen a gweld cofnod a’r wal lle oedd siop fasnach Iolo, ar waelod y plac darllen y geiriau ”Y Gwir yn erbyn y Byd” wedi eu hysgrifennu yn y Wyddor Farddol Iolo. O fewn llathenni ymweld â gardd berlysiau sydd yn adlewyrchu beth oedd yn cael eu tyfu yn y gorffennol ar gyfer coginio, lliwio defnydd ac fel meddyginiaeth, gyda phob planhigin a thri enw, yn Gymraeg, Saesneg a Lladin.

_DSC0016Cerdded drwy lawer pentref diddorol a gweld cawraeth yn weledol bwysig yma, yn Llanfleiddan gweld hen gastell St Quentins oedd yn dyddio nôl i’r 14eg ganrif. Ymweld ag Eglwys y Plwyf Llan-fair lle priododd Iolo a Margaret Roberts a’r 17 o Orffenaf 1781 gan ei ffrind Parchedig John Walters. Cyrraedd Castell Bewpyr erbyn amser cinio, cartref y teulu Baseliaid a oedd yn gefnogoli’r Gymraeg. Cafodd y lle hwn ei ychwanegu gyda phorth esgeuddis hardd yn 1600 o fathstone ac arbais y teulu arno hefyd y geiriau “Gwell Angau na Chywilydd”. Cerdded drwy bentref St Hillary, golgfeydd hyfryd uwch-ben y pentref o’r arfordyr ac ar draws i Wlad yr Haf, a gweld awyrennau yn codi a disgyn o faes awyr Cymru. Nôl dros faes y gad Bryn Owain. Dewisodd Bryn Owain gan Iolo oherwydd eu leoliad daeryddol a hanesyddol gan yma y cynhaliwyd brwydr deunaw awr rhwng gwyr Owain Glyndwr a byddin y brenin Harri IV yn 1403, lle y bu’r Cymry yn fuddugol yn ôl Iolo! Yma ceir cofeb yn coffau mai ar y tir yma sefydlodd Iolo Orsedd Beirdd Ynys Prydain Ynghymru yn 1795, tair mlynedd ar ôl y cyfarfod cyntaf yn Bryn Briallu Llundain. Taith ddiddorol ac yn llawn hanes.