Taith Tre hafod – Tre hopcin

gan Alun Jones

imageAr ddiwrnod olaf hyfryd mis Hydref bûm ar daith gerdded Cymdeithas Edward Llwyd i ardal rhwng Pont-y-pridd a’r Porth.

Ein arweinydd oedd bachgen lleol Glyn Hughes, a lleoliad ein man cyfarfod oedd Barry Sidings. Enw diddorol gan fod tref y Barri ugain milltir i’r de. Ystyr i’r lle yw mai dyma leoliad y tryciau glo o’r gwahanol byllau yn cael eu trefnu cyn i’r trên eu cludo am borthladd y Barri, a’u hallforio ar draws y byd.  Cofier mae David Davies Llandinam oedd un o berchnogion pyllau y Rhondda.

Cerdded am fynydd Gelliwion a chael golwg ar draws afon Rhondda ar Gapel y Bedyddwyr  Cwm Rhondda Tre-hopcin. Dyma lle y canwyd yr emyn don Rhondda neu erbyn hyn Cwm Rhondda gyntaf. Cyfansoddwyd y don ar gyfer agor organ newydd y capel gan John Hughes yn 1907, ac efe gafodd y fraint o fod yn organydd i’r don ar yr achlysur.

imageCael hanes ar y daith sut oedd tirwedd wedi newid wedi trychineb Aberfan, gyda’r tipiau mawr glo duon wedi eu dymchwel ac wedi eu troi yn dir amaeth neu goedwig  bleserus i’r llygad.

Cael cinio a’r gyrion Mynydd y Glyn 1200 troedfedd uwch y môr a gweld golygfeydd rhagluniaeth i bob cyfeiriad. Ein cylch daith yn dod a ni i ben spwriel hen lofa Lewis Merthyr, pwll a gaeodd yn 1984, ac erbyn hyn yn Barc Treftadaeth y Rhondda. Cael yma olygfa  arbennig o dre’r Porth sydd yn ein arwain i gyfeiriad Rhondda Fawr a Fach, ie pentrefi bach di-nod fyddai Ton-y-pandy, Treorci,  Ton Pentre a Threherbert y Rhondda Fawr a Ynys Hir, Pont-y-gwith, Tyrorstown a Ferndale yn Rhondda Fach oni-bai am y dywidiant glo, gwerth cofio cân Max Boyce wrth weld yr olygfa.

Cael hanes Corona Pop yma hefyd, sef hanes William Evans yn wr ifanc o Abergwaun yn mentro i fyd busnes. Wedi gwneud prentisiaeth mewn siop yn Hwlffordd aeth I weithio mewn siop yn y Porth. Mewn ychydig amser trwy gymorth ei gyn gyflogwr yn sir Benfro agorodd siop eto yn y Porth dan yr enw Thomas & Evans lle buodd yn llwyddianus iawn. Mewn deg mlynedd adeiladu ffatri i wneud Ginger Byr a “Hop Bitters”. Yn 1920 newid enw’r cynnyrch i “CORONA” a’i werthu ar draws Prydain Fawr. Fel pob cwmni llewyrchus yn cael ei lyncu gan gwmni Beechams yn 1958 ac yna Britvic a hwythau yn eu tro yn cau y gweithle yn y Rhondda yn 1987.  Ond mae chwedloniaeth William Evans yn parhau i’w gweld gyda’r ty moethus Bronwydd Park . Cartref newydd sydd i’r gwaith pop heddiw sef stiwdio gerdd ac yn y blaen.

Pleser i mi oedd gweld pentre Trebanog i’r chwith o Borth lle ganwyd un o arwyr bore oes sef Cliff Morgan . Uwch ben hen bentref Llwyncelyn ger y Porth gweld cartref un o brif athletwr y gorffennol Griffith Morgan neu Guto Nyth Bran. Nyth Bran oedd enw ei gartref, mae i’w weld yn un o’r lluniau.  Taith hanesyddol iawn heb anghofio byd natur a’i holl rywogaethau o ffwng .

Luniau trwy garedigrwydd Alan Williams Pontardawe.