Yr Undodiaid ar daith

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Y cerddwyr wedi aros yn Llanfair Clydogau
Y cerddwyr wedi aros yn Llanfair Clydogau

“Roedd y ffordd rhwng Cellan a Llanddewi Brefi’n anarferol o brysur o feddwl mai bore Sul oedd hi” medd Dylan Iorwerth “wrth i daith gerdded flynyddol capeli Undodaidd y Smotyn Du ddilyn afon Teifi o Gapel Caeronnen i sgwâr Llanddewi.”

Roedd tua 30 yn cerdded ac eraill yn arwain a dilyn mewn ceir a’r daith eleni’n codi arian at adran deialisis Ysbyty Glangwili.

Yfed Dŵr yn Llanfair Clydogau
Yfed Dŵr yn Llanfair Clydogau

Mae’r daith bellach yn ddigwyddiad blynyddol a miloedd yn cael eu codi at achosion da.

Roedd Dylan Iorwerth ymhlith y cerddwyr “Fe arhosodd nifer am ginio yn y New Inn yn Llanddewi cyn teithio tros yr ucheldiroedd i Soar y Mynydd, ble’r oedd y Parch Cen Llwyd yn pregethu.”

“Mae’r lluniau’n dangos y criw’n aros am ddiod yn Llanfair Clydogau – a gan eu bod ar eu ffordd i Landdewi, dim ond dŵr!”