Colli gobaith wrth i ladron dorri mewn i Glwb Rygbi Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Clwb Rygbi Llanbed
Clwb Rygbi Llanbed

Mae aelodau Clwb Rygbi Llanbed wedi eu siomi’n ofnadwy heddiw o ddarganfod bod lladron wedi torri mewn i’r adeilad gan niweidio’r eiddo ar Ffordd y Gogledd dros y penwythnos.

Tybir mai yn ystod oriau mân ar fore Sul y digwyddodd y lladrad a hynny wedi diwrnod llwyddiannus yn y clwb wrth i lawer heidio yno i wylio’r gêm ryngwladol.  Wrth i’r glanheuwyr gyrraedd yno ar fore Sul, darganfuwyd y niwed a galwyd ar swyddogion y clwb a’r heddlu.

Chris Doughty a Selwyn Walters ar ddiwrnod yr agoriad yng Nghlwb Rygbi Llanbed. Llun gan Tim Jones.
Chris Doughty a Selwyn Walters ar ddiwrnod yr agoriad yng Nghlwb Rygbi Llanbed. Llun gan Tim Jones.

Dim ond ym mis Mai 2014 yr agorwyd adeilad newydd Clwb Rygbi Llanbed a hynny ar ôl misoedd o gydweithio gweithgar rhwng yr aelodau, cwmnïoedd a gwirfoddolwyr wrth ail adeiladu’r lle.  Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, bu’r clwb yn destun eiddigedd gan gefnogwyr rygbi o bell ac agos oherwydd y cyfleusterau modern a moethus.

Teimlad o siom a dicter oedd yn wynebu aelodau a swyddogion y Clwb ar ddydd Sul.  Wedi’r holl ymdrech, mae’n anodd credu bod rhywrai wedi gallu ystyried cyflawni’r fath weithred.

Mae dydd Sul yn ddiwrnod prysur iawn yn y clwb fel arfer gyda gemau’r plant a Chegin Gwenog yn arlwyo lan llofft.  Ond bu’n rhaid gwneud trefniadau eraill heddiw wrth ddisgwyl tîm fforensig yr heddlu i archwilio’r safle.

Defnyddiwyd y cae chwarae yng Nghwmann ar gyfer y gemau ond nid oedd yn bosib cynnig lluniaeth i’r ymwelwyr ifanc.

Os oes gan rywun unrhyw wybodaeth, gofynnir i chi gysylltu â’r heddlu yn ddiymdroi.