Ar ddydd Sadwrn, fe fydd Rhys a Rhodri Price, dau frawd o Lambed, yn dechrau taith o 700 o filltiroedd ar draws 5 o wledydd ar gefn beic i godi arian ar gyfer dwy elusen.
Mae Rhys, sy’n gweithio i fusnes y teulu Gwilym C Price ei Fab a’i Ferched, yn codi arian ar gyfer Ymchwil Cancr y Prostrat. Clefyd sydd yn effeithio tua 37,000 o ddynion yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys ei dad-cu.
Er mwyn cyfrannu tuag at achos Rhys, dilynwch y ddolen hon i wefan Justgiving.
Bydd Rhodri, 19 oed sy’n fyfyriwr yng Nghaerdydd, yn gwneud y daith ar gyfer GOSH sef Great Ormond Street Hospital, elusen sydd hefyd yn agos iddo gan ei fod wedi bod yn glaf yno pan yn blentyn.
Er mwyn cyfrannu tuag at achos Rhodri, dilynwch y ddolen hon i wefan Justgiving.
Bydd y daith yn dechrau ym Mudapest, Hwngari ddydd Sul y 13eg o Fehefin. Byddant wedyn yn teithio trwy Slofacia, Awstria, Y Weriniaeth Czech, gan orffen yn Berlin yn yr Almaen. Yn ystod y daith bydd eu cefnder Pedr Charlesworth yn ymuno â nhw. Y bwriad ydy i gwblhau’r daith 700 milltir o fewn tair wythnos. Pob lwc iddynt.