Duathlon Tregaron: Llwyddiant lleol

gan Efa Edwards

Campau caronRoedd llwyddiant i’r pâr o ardal Llanbed, Sion Price a Gareth Hodgson, yn Duathlon Tregaron oedd yn cael ei drefnu gan grŵp Campau Caron ddoe.

Gyda’r ddau’n cyfuno i ffurfio tîm cyfnewid cryf, gyda Sion yn taclo’r ddau gymal rhedeg o 3 milltir a 2 filltir a Gareth yn seiclo cylch 15 milltir yn y canol.

Mae Sion wedi cael dechrau da i’r tymor rhedeg gan orffen yn drydydd yn hanner marathon Cors Caron fis diwethaf, ac yn ail yn 10k Llanddewi Brefi wythnos diwethaf. Doedd hi’n ddim syndod felly i’w weld yn cwblhau’r cymal cyntaf o 3m yn y safle cyntaf mewn amser arddechog o 16.58.

Cwblhaodd Gareth y 15m ar y beic mewn amser cyflym o 39.40, gyda dim ond un beiciwr yn cwblhau’r cwrs mewn amser cyflymach sef Daniel Thorogood, sydd wedi cynhrychioli Prydain yn y triathlon yn y gorffennol.

Roedd Sion yr un mor effeithiol yn yr ail gymal rhedeg, gan orffen y cwrs 2 filltir mewn 11.30, a sicrhau bod y pâr yn gorffen mewn cyfanswm amser o 68.35.

Dafydd Davies o Aberystwyth oedd yn fuddugol yn y ras unigol gyda’r amseroedd canlynol: 3m rhedeg – 17.54; 15m beicio – 42.36, 2m rhedeg – 13.30 (amser gorffen – 74.50).

Becci Darby oedd enillydd y ras agored i ferched, gan orffen mewn amser o 104.26, gyda Maggie Collingborn o Aberystwyth yn fuddugol yn y ras i ferched hŷn (99.17).

Kevin Hughes enillodd y ras i ddynion hŷn (81.25), a’r gŵr ifanc o Dregaron, Steffan Owens, oedd y cyntaf o’r dynion iau (78.06).

Canlyniadau llawn:

canlyniadau duathlon tregaron 2016