Ddydd Iau hyn bydd Ras yr Iaith yn pasio trwy’r ardal, ac mae’r gefnogaeth ariannol wedi bod yn anhygoel.
Pwrpas Ras yr Iaith yw codi proffil a hyder yr iaith Gymraeg, hyrwyddo iechyd corfforol a chryfhau ein cymunedau.
Bydd cymal Llanbed yn dechrau o Ysgol Carreg Hirfaen, Cwmann am 12.30yp gyda’r bwriad o gyrraedd y Clwb Rygbi, Llanbed erbyn 1 o’r gloch, gyda thoriad byr yn Ysgol Bro Pedr yn y canol.
Gwahoddir pobl, cymdeithasau a chwmnïoedd i noddi km o’r ras am £50, a chroesawir unrhywun i gymryd rhan. Ymhlith rhedwyr eraill, bydd disgyblion Ysgol Carreg Hirfaen yn rhedeg y rhan gyntaf, a disgyblion Ysgol Bro Pedr yn rhedeg yr ail ran. Dewi Pws fydd yn arwain y Ras gan ddiddanu’r rhedwyr o’r cerbyd arweiniol.
Gweinyddir ochr ariannol y Ras gan Rhedadeg Cyf. cwmni nid-er-elw a sefydlwyd yn unswydd ar gyfer cynnal Ras yr Iaith. Bydd yr arian yn mynd tuag at gynnal y Ras – talu am bosteri, diesel i’r fan, baneri ac yn y blaen. Os bydd elw ar ddiwedd y Ras yna’r bwriad yw cynnig yr arian ar ffurf grantiau i fudiadau neu fentrau sy’n defnyddio neu hyrwyddo’r Gymraeg.
Yn ôl prif stiward cymal Llanbed, Rhodri Francis o Fenter Iaith Cered, “Mae’r ymateb o ardal Llanbed wedi bod yn anhygoel. Mae aelodau’r pwyllgor lleol wedi bod yn brysur yn casglu nawdd, recriwtio gwirfoddolwyr a chodi arwyddion.”
Dyma’r noddwyr lleol: Ysgol Carreg Hirfaen; Cyngor Cymuned Llanwenog; Simon Hall Meats; Philip Lodwick; Côr Meibion Cwmann a’r Cylch; Evans a Hughes; Clwb Rygbi Sarn Helen; Siop Sglodion a Physgod Lloyds; Mulberry Bush; Tafarn Llain y Castell; Co-op; Sarn Helen; Gwili Jones; The Wash Tub; Ysgol Bro Pedr (cynradd); Ysgol Bro Pedr (uwchradd); Cyngor Tref Llanbed; ADVE; Capel Undodiaid Brondefi; Papur Bro Clonc; Capel Noddfa Undeb Bedyddwyr; Ford Gron; Merched y Wawr; Clwb Rotari; Capel Shiloh; Capel Soar; Clybiau Ffermwyr Ifanc Bro’r Dderi a Chwmann; Carpet Corner; Gwyn Lewis; Sainsburys; Yr Hedyn Mwstad a Thai Ceredigion.
Cynhaliwyd ras debyg yn Llanbed ddwy flynedd yn ôl pan y trefnwyd hi am y tro cyntaf yng Ngheredigion, ond eleni mae’n para tri diwrnod ac yn ymweld ag ardaloedd eraill hefyd.
Ewch i gefnogi’r Ras yn Llanbed ddydd Iau felly a chwifio baner yr Iaith Gymraeg gyda balchder.