Ers 1982, mae Goronwy a Beti Evans wedi bod yn derbyn arian Plant Mewn Angen yn Llanbed, ac eleni eto ar y 18fed Tachwedd bydd Capel Sant Tomos, Llanbed ar agor rhwng 10 y bore i 5.30 y prynhawn i wneud yr un peth.
Dros gyfnod o 30 o flynyddoedd llwyddodd yr ardal hon i godi dros filiwn o bunnoedd tuag at yr elusen, ac mae’r arian yn llifo mewn bob blwyddyn. Daw rhwng £20,000 a £25,000 mewn drwy law Goronwy a Beti yn flynyddol.
Yn y dyddiau cynnar cofia Goronwy am y bwrlwm oedd ar y diwrnod arbennig ar eu haelwyd yn Y Mans, Llanbed. Dywedodd “rodd canolfan yng Nghaerfyrddin ac yn Aberystwyth, ond roedd ein hardal ni yn ymestyn bob cam i Ysgol y Preseli.”
“Yn ogystal â chodi arian sylweddol tuag at yr elusen, roedd y digwyddiadau yn Llanbed yn rhoi’r ardal ar y map” ychwanegodd.
Yn Llanbed y dechreuodd yr arferiad o ddefnyddio ysgolion, ac yn Llanbed y dechreuwyd defnyddio enwogion i fynd o gwmpas ysgolion a chanolfannau.
Roedd pedair llinell ffôn yn dod mewn i’r Mans a rhif ffôn y Mans yn cael ei gyhoeddi ar y radio a’r teledu. Wrth i’r holl beth dyfu, symudwyd y ganolfan i’r coleg a bu’n rhaid parhau heb gyfraniadau ffôn wrth i’r elusen ddefnyddio rhif cenedlaethol yn unig.
Mae Goronwy a Beti yn ddiolchgar iawn i bawb a fu’n cynorthwyo dros y blynyddoedd, ond hefyd yn awyddus i bâr o ddwylo newydd i gymryd at yr awennau.
Cofiwch alw yng Nghapel Sant Tomos ar y Cwmins ar y diwrnod gyda’ch cyfraniadau ac i gynnig help llaw mewn menter elusennol sydd wedi bod mor llwyddiannus dros y blynyddoedd.