Mel yn bowlio yn Awstralia

gan Alis Butten

Yn ystod mis Ebrill bu Melanie Thomas o Glwb Bowlio Llanbed allan yn Awstralia yn cystadlu yn y Bencampwriaethau o dan ddau ddeg pump y Byd. Gyda’i phartner bowlio Jarrad Breen o’r Rhondda, fe wnaeth y ddau ddychwelyd i Gymru gyda’r fedal arian.   Roedd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar arfordir dwyrain Awstralia efo pymtheg o wledydd yn cystadlu dros ddwy wythnos.

Melanie Thomas a Jarrad Breen ar ôl derbyn y fedal arian.

Ar ôl gorffen yn ail yn y grŵp, aeth y ddau ymlaen i ennill yn erbyn tîm o Seland Newydd 17-16 ac yna ennill yn y rownd cyn derfynol 18-14 yn erbyn tîm Awstralia#3. Yn y rownd derfynol roedd Melanie a Jarrad yn erbyn tîm Awstralia#1 ac ar ôl brwydro’n galed, colli 19-14 a dychwelyd i Gymru gyda’r fedal arian oedd i’r ddau. Llongyfarchiadau Mel.

Ers i Mel ddychwelyd i Gymru mae tymor bowlio tu allan wedi dechrau yn Llanbed.  Ar ddydd Sadwrn, 16eg o Ebrill, roedd agoriad swyddogol Clwb Bowlio Llanbed. Ar ôl tymor llwyddiannus llynedd mae’r aelodau yn edrych ymlaen ar gyfer yr her sydd i ddod tymor yma. Mae’r Clwb yn estyn croeso i unrhyw un sydd am brofi’r gamp o fowlio gyda sesiynau ar gyfer aelodau newydd bob nos Iau ym mis Mai. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Anita Williams: 01570 422819. bowls 2