Bydd cerddwyr ardal Clonc a thu hwnt yn elwa o brosiect newydd sy’n anelu at agor llwybr cerdded cylchol pum milltir ger Llambed ym mis Mawrth.
Mae’r llwybr, sydd yn bum milltir o hyd, yn mynd o bentref Cellan gan gynnig golygfeydd godidog o’r bryniau o amgylch y pentref, er mwyn cael mwy o bobl yn mwynhau’r awyr agored a chefn gwlad Cymru.
Hyd yn hyn, mae Grŵp Gwirfoddol Crwydrwyr Llambed a Grŵp Gwirfoddoli Crwydrwyr Aberystwyth, gyda chymorth y contractwyr lleol Dyfrig Jones, Richard Hicks ac Alistair Severs, wedi gwneud y gwaith ar wahanol gamau o’r llwybr, â’r cam olaf i’w gwblhau dros yr wythnosau nesaf.
Mae grwpiau gwirfoddol wedi gwneud gwaith ardderchog, gyda sawl giât hunan-gloi wedi cael eu gosod i gymryd lle camfeydd digon lletchwith, yn ogystal ag adeiladu deg o bontydd o amryw feintiau dros nifer o nentydd a ffosydd.
Disgwylir i waith gymryd lle yn Tyncoed dros yr wythnos nesaf, a mae Grwpiau Gwirfoddol Llambed a Aberystwyth wedi cwblhau gwaith rhwng Cadwgan a Phant y Pistyll yn ddiweddar.
Mae agoriad y llwybr yn rhan o Flwyddyn Antur Croeso Cymru, sydd yn anelu i gael mwy o bobl i fynd ar eu antur lleol eu hunain, a gwneud y mwyaf o’r llwybr yma gan fwynhau’r rhan prydferth yma o Gymru ar yr un pryd.
Fe fydd Crwydrwyr Llambed yn defnyddio’r llwybr yma ar gyfer eu taith gerdded flynyddol yn mis Mai.
Os ydych yn cerdded ac yn hoff o ddefnyddio Hawliau Tramwy Cyhoeddus i gadw’n heini ac i weld mwy o gefn gwlad Ceredigion, cofiwch y Côd Cefn Gwlad:
- Byddwch yn ddiogel – cynlluniwch eich taith ymlaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion
- Gadewch glwydi ac eiddo fel yr oedden nhw
- Amddiffynnwch planhigion ag anifeiliaid ac ewch a’ch sbwriel adref efo chi
- Cadwch gŵn dan reolaeth effeithiol
- Parchwch bobl eraill
Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Gynllun Gwella Hawliau Tramwy 2015 Cyngor Sir Ceredigion, sydd yn anelu i wella llwybrau ar draws y sir ar gyfer trigolion.