Ras yr Iaith yn dychwelyd i Lanbed eleni ac yn ehangu

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Ras 2014 yn Stryd y Bont.  Llun gan Tim Jones
Ras 2014 yn Stryd y Bont. Llun gan Tim Jones

Yn 2014 cynhaliwyd Ras yr Iaith am y tro cyntaf, sef ras hwyl, heb fod yn gystadleuol – dros y Gymraeg, gan ymweld â 9 tref (rhwng Machynlleth ac Aberteifi), a denu dros 1,000 o gyfranogwyr a chodi dros £4,000 at achosion lleol i gefnogi’r iaith.

Bydd y Ras yn dychwelyd ar 6, 7 a 8 o Orffennaf eleni, a thrwy gydweithio’n agos â mudiadau lleol, gan gynnwys Menter Iaith Cered, bwriedir ehangu a datblygu’r Ras yn sylweddol, gan redeg trwy o leiaf 20 lleoliad dros 3 diwrnod, rhwng Bangor a Llandeilo.

Y bwriad yw i’r Ras ymweld â Llanbed ar y 7fed o Orffennaf, a gwahoddir unigolion i ymuno trwy gymryd rhan yn y Ras er mwyn dathlu’r Gymraeg, Cymreictod a chymuned, a chael llawer o hwyl a sbri wrth wneud.

Ras 2014 yn y Stryd Fawr.  Llun gan Tim Jones
Ras 2014 yn y Stryd Fawr. Llun gan Tim Jones

Dywedodd Lynsey Thomas, Rheolwr Cered, “Gyda’r prif nod o ddathlu’r iaith a chodi balchder ynddi, mae’r Ras hefyd yn codi arian i hyrwyddo’r Gymraeg yn lleol trwy wahodd grwpiau, clybiau ac ysgolion lleol i noddi cilomedr.  Yn 2014 fe ddosbarthwyd grantiau gwerth dros £4,000 i gefnogi achosion lleol wedi’r Ras.”

Bwriedir codi hyd yn oed mwy o arian trwy ymestyn a datblygu’r Ras, ac er mwyn cadw’r Ras mor agored â phosib fe fydd y gost i noddi pob cilomedr yn aros yr un peth â 2014, sef £50.  Am hyn byddwch yn gallu rhedeg km (neu fwy) a does dim uchafswm ar nifer yr unigolion sy’n gallu rhedeg.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y Ras ar wefan Ras yr Iaith.  Gallwch gysylltu â’r Fenter am fwy o wybodaeth hefyd.

 

Llwybr arfaethedig:

6 Gorffennaf: Bangor, Bethesda, Betws y Coed, Llanrwst, Blaenau Ffestiniog, Y Bala, Dolgellau, Machynlleth

7 Gorffennaf: Aberystwyth, Tregaron, Llanbed, Aberaeron, Ceinewydd, Castell Newydd Emlyn, Aberteifi

8 Gorffennaf: Crymych, Arberth, Dinbych y Pysgod, San Clêr, Caerfyrddin, Rhydaman, Brynaman, Llanymddyfri, Llandeilo