Taith Feicio a Bryan yr Organ er lles JDRF

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Beicwyr ifanc
Beicwyr ifanc

Ar ddydd Sadwrn 20fed o Awst cynhaliwyd diwrnod o weithgareddau yng Nghlwb Rygbi Llambed i godi arian tuag at elusen JDRF sef yr elusen i wella clefyd y siwgwr. Dai Charles ac Eryl, Silian oedd yn gyfrifol am y trefniadau.

Taith feicio oedd yr atyniad yn y prynhawn gyda thuag at 70 o bobl yn bwrw ati i fecio rhwng 10 a 40 milltir. Dywedodd Eryl “Braf oedd gweld plant ifanc yn mentro rownd Llanfair a rhai mwy profiadol yn taclo’r daith o gwmpas Tregaron neu gors Caron. Bendith oedd bod y glaw wedi peidio am gyfnod a phawb wedi cyrraedd nôl heb gwlychu!”

Dai Charles ac Eryl
Dai Charles ac Eryl

Ychwanegodd Eryl “Gyda’r hwyr cawsom ein diddanu gan ‘Bryan yr Organ’ a hefyd rhostiwyd mochyn i wneud pryd blasus i bawb gan Tony a Mair o’r Clwb Rygbi. Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni ‘Dunbia’ am roi y mochyn tuag at yr achos ac hefyd i Eirian James, Mark Lane am ddarparu’r bara ar ein cyfer.”

Gwerthwyd llawer o raffls ac hyd yn hyn rydym ym meddwl bod y cyfanswm a godwyd oddeutu’r £2,000 gyda chyfryniadau yn dal i ddod i law. Mae clefyd y siwgwr neu ‘diabetes math 1’ yn effeithio ar blant a phobl ifanc.

Bryan yr Organ
Bryan yr Organ

Cafwyd araith bwrpasol am y clefyd gan Miranda Burdett, y swyddog newydd o Gaerdydd, sydd yn gyfrifol am annog pobl yng Nghymru i godi arian i’r elusen. Mae JDRF yn buddsoddi mewn ymwchwil i wella’r driniaeth yn llwyr. Bydd hyn o fudd hefyd yn y pendraw i bobl hŷn sydd yn dioddef o math 2.

Hoffai Dai Charles ac Eryl ddiolch o galon i bawb a wnaeth helpu gyda threfniadau’r dydd ac am gymryd rhan yn y gweithgareddau ac hefyd i’r pobl a busnesau lleol a wnaeth gyfrannu tuag at gwobrau i’r raffl.