Anelu am Hawaii

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Gareth Hodgson o Lwyn-y-groes – enilydd y dynion yng nghystadlaethau Triathlon Cymru 2017

Llwyddiant i Gareth Hodgson yng nghystadleuaeth Triathlon Cymru

Mae gŵr o Geredigion yn prysur wneud enw iddo’i hun ym myd triathlon.

Yr wythnos diwethaf, daeth Gareth Hodgson i’r brig yng nghyfres Triathlon Cymru ar ôl ennill y nifer mwyaf o bwyntiau yng nghystadlaethau’r flwyddyn.

“Mi oedd hynny’n golygu tipyn imi, oherwydd dw i ddim wedi bod wrthi ers yn hir,” meddai’r dyn a enillodd ddwy fedal aur a medal efydd am seiclo, nofio a rhedeg yn Y Bala, Caerdydd a Phorthcawl yn ystod yr haf.

Ar hyn o bryd, mae’r gŵr o Lwyn-y-groes wrthi fel lladd nadroedd yn ymarfer 30 awr yr wythnos ar gyfer cystadleuaeth Iron Man ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Kailua-Kona, Hawaii.

Fe fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ym mis Hydref, a llwyddodd Gareth Hodgson i ennill ei le ar ôl dod yn y deugain uchaf yn Iron Man Dinbych-y-pysgod y llynedd.

Medal Gareth a gipiodd yn Ninbych-y-Pysgod y llynedd

 

Yn ôl i Geredigion

Dim ond ers tair blynedd y mae Gareth wedi bod yn cystadlu yn y byd triathlon ac erbyn hyn mae’n rhan o dîm seiclo Cranc yn ardal Caerfyrddin.

“Dw i wedi bod yn gweithio bant ers blynyddoedd mawr, ac roeddwn i eisiau dod adref ac ailafael mewn chwaraeon a phrofi mod i’n gallu gwneud rhywbeth fel hyn,” meddai.

Esboniodd ei fod arfer teithio i bob cwr o wledydd Prydain wrth weithio i gwmni sgaffaldau, ond mae bellach wedi sefydlu busnes ei hun, sef GG designs, yn brodio dillad.

“Mae’n fenter newydd ac mae pethau’n mynd yn dda. Ni’n gwneud llawer o waith i gwmnïau lleol,” meddai.

Y filltir gyntaf…

Esbonia Gareth mai seiclo yw ei gryfder mwyaf ac fe fydd yn ymarfer ymhob cwr o Geredigion gan nofio ym mhwll nofio Llanbed.

Ar gefn ei feic

“Mae yna gymaint o gyfleoedd arbennig yng Ngheredigion, ac mae’r ffaith ein bod ni’n byw mewn ardal mor bert yn help,” meddai.

A’i gyngor i unrhyw un sy’n ystyried mentro i gamp newydd yw i “fynd amdani.”

“Y filltir gyntaf sydd fwyaf anodd, ond ar ôl hynny chi’n cael profiadau arbennig ac yn cwrdd â llawer o bobol,” meddai.