Ben Lake wedi’i ethol i’r Pwyllgor Materion Cymreig

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Aelod Seneddol Ceredigion, sydd wedi’i eni a’i fagu yn Llanbed, wedi cael ei ethol i un o bwyllgorau dethol y Senedd yn San Steffan.

Cafodd Ben Lake ei benodi i’r Pwyllgor Materion Cymreig ar ran Plaid Cymru lle mae’r aelodau’n trafod ac yn archwilio unrhyw bolisïau sy’n effeithio ar Gymru.

Yn ymuno ag ef ar y pwyllgor mae:

  • Chris Davies (Ceidwadwyr, Aberhonddu a Sir Faesyfed)
  • Glyn Davies (Ceidwadwyr, Sir Drefaldwyn)
  • Paul Flynn (Llafur, Gorllewin Casnewydd)
  • Geraint Davies (Llafur, Gorllewin Abertawe).

Ac fe gafodd David TC Davies, Aelod Seneddol Sir Fynwy, ei ail-ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor.

Mae adroddiadau hefyd y bydd tair Aelod Seneddol arall yn cynnig eu henwau i’r pwyllgor gan gynnwys Tonia Antoniazzi ac Anna McMorrin (Llafur) a Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

‘Llais cryf’

Dywedodd Ben Lake mewn datganiad i’r wasg yn gynharach yr wythnos hon ei fod yn “falch iawn” o gael ei ethol i’r pwyllgor.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Pwyllgor Materion Cymreig i sicrhau fod gan bobol Ceredigion a Chymru lais cryf ac effeithiol yn San Steffan ac i ddal Llywodraeth Prydain i gyfrif am eu record yng Nghymru,” meddai.

Aelodau’r Pwyllgor
(Llun: Pwyllgor Materion Cymreig)

‘Adlewyrchiad trist’

Ddechrau’r wythnos fe wnaeth Ben Lake feirniadu mai dim ond dau Aelod Seneddol o Lafur wnaeth gynnig eu henwau i fod ar y pwyllgor yn wreiddiol.

“Mae’r ffaith mai dim ond dau o’r 28 AS Llafur yng Nghymru a benderfynodd roi eu henwau gerbron yn adlewyrchiad trist o ddifrawder y Blaid Lafur tuag at Gymru,” meddai.

Ond mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru fod “mwy na hanner” ASau Llafur yn dal swyddi cysgodol ar y fainc flaen ac felly “yn eu galluogi i sefyll i fyny dros Gymru a dal y Torïaid i gyfrif.