Blin, Blewog a Doniol – Cyfrinachau’r mis gan Iestyn Russell

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Iestyn
Iestyn

Iestyn Russell, Coedeiddig, Cwmann sy’n datgelu cyfrinachau’r ifanc yn rhifyn mis Mai Papur Bro Clonc.  Mae e wedi ysgrifennu’n dreiddgar iawn gan ddoethinebu’n graff ar agweddau o’i fywyd fel mab ffarm.

“Ma disgwyl fod yn berffaith trwy’r amser yn gallu bod yn wael i chi!” meddai wrth ddisgrifio rhwystredigaethau’r dydd, a’r ansoddeiriau y defnyddia i ddisgrifio ei hunan yw “Blin, blewog a doniol”.

Mae’n gyn ddisgybl o Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan ac yn gyn fyfyriwr o Goleg Amaethyddol Harper Adams ac yn aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Cwmann.

Yn y rhifyn cyfredol o Clonc mae’n ateb nifer fawr o gwestiynau personol gan gynnwys: Beth oedd y frawddeg bachu orau a ddefnyddiodd? Y peth gorau a’r peth gwaethaf am ei swydd bresennol? Sut fyddai’n gwario £10,000? Beth sy’n codi ofn arno? Pa ran o’i gorff yw ei hoff ran?

Gwnewch yn siwr eich bod yn prynu copi o Clonc Mai er mwyn darllen y golofn ddifyr hon.