Cofio’r Llewod yn Llanbed

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Aled Evans

Aled Evans yn sôn am noson ryfeddol o rygbi

Mae’n ddeugain mlynedd eleni ers i bymtheg o gewri rygbi Cymru ddod i Lanbed i herio’r clwb rygbi lleol.

Newydd ddychwelyd o’u taith yn Seland Newydd oedd y Llewod yn 1977 ac erbyn yr hydref fe ddaeth pymtheg o’r Cymry o’r garfan honno i chwarae yn Llanbed.

Yn eu plith roedd Brynmor Williams, Phil Bennett, Elgan Rees a Derek Quinnell gyda’r gêm yn rhan o ddathliadau agoriad swyddogol estyniad i glwb rygbi Llanbed.

Er mai colli o 64 – 4 oedd hanes y tîm lleol roedd hi’n “noson wirioneddol hanesyddol,” yn ôl Aled Evans, gynt o fferm Tanygraig, Silian.

Go brin, meddai, y bydd y fath gasgliad o dalent yn cael ei weld ar gae rygbi yng Ngheredigion fyth eto.

Roedd Aled yn un o’r dorf o tua 3,000 o bobol oedd yno’r noson honno, a dyma ran o erthygl ganddo’n cofnodi’r hanes:

‘Gwledd ryfeddaf o rygbi’

Diolch i weledigaeth a brwdfrydedd pwyllgor Clwb Rygbi Llanbed fe ddenwyd yr elfen Gymreig o garfan y Llewod 1977 i chwarae XV Llywydd Clwb Rygbi Llanbed, gan gynnwys chwaraewyr rhyngwladol, megis y blaenasgellwr Mark Keyworth o glwb Abertawe a Lloegr, a oedd yn ffermio yn Llanon.

Er i’r Llewod Cymreig ennill y frwydr o dan y llifoleuadau ar achlysur agoriad swyddogol estyniad adeilad Clwb Rygbi Llanbed gan Phil Bennett, cafodd y cefnogwyr a deithiodd o bob rhan o’r gorllewin gwyllt y noson honno wledd wirioneddol o rygbi.

Fel cefnogwr rygbi tair ar ddeg oed yn gwledda ar oes aur rygbi Cymru, roedd yn ymddangos bod Nadolig wedi dod yn gynnar y flwyddyn honno.

Poster y gêm yn Llanbed nos Iau 27 Hydref 1977

Rwy’n dal i gofio’r wefr o fod yn rhan o’r dyrfa o 3,000 ynghyd â fy mrawd a fy nhad, a fu’n dyst i noson wirioneddol hanesyddol i Glwb Rygbi Llanbed.

Yn yr oes broffesiynol hon, mae meddwl bod y fath gêm wedi cael ei chynnal yn nhref marchnad Llanbed bron yn anghredadwy, yn enwedig o ystyried y fath sêr oedd ar faes Heol y Gogledd y noson honno.

Diolch i fy nhad Rhythwyn Evans oedd yn ffermio gerllaw ym mhentref Silian, roeddwn i â fy mrawd [Dai Charles] yn dyst i’r wledd ryfeddaf o rygbi agored pymtheg dyn, ac mae’n annhebygol y gwelwn y fath dalent eto ar faes rygbi yng Ngheredigion!

‘Cysylltiadau defnyddiol’

Fe wnaeth un o hoelion wyth Clwb Rygbi Llanbed, Selwyn Walters, gadarnhau fod gan aelodau pwyllgor y clwb gryn ddylanwad o fewn y gêm yng Nghymru ar y pryd, gan fod y clwb yn un o aelodau gwreiddiol Undeb Rygbi Cymru ac yn wir yn ddiweddar fe gafwyd cadarnhad mai Llanbed oedd man geni’r gêm yng Nghymru.

Mewn cyfweliad â’r Cambrian News wythnos cyn y gêm yn 1977, dywedodd ysgrifennydd y clwb Mr John Lloyd Jones mewn ymateb i’r cwestiwn sut fod clwb bychan fel Llanbed yn medru denu’r fath sêr o fewn y gêm i Sir Aberteifi: “mae gennym ambell i gysylltiad defnyddiol o fewn y gêm ac mae’n amlwg y bu hyn o gymorth i ni”.

Ymysg y dynion dylanwadol hyn roedd Llywydd y clwb, Vincent Evans a’r Cadeirydd Lawrence Davies.

 Y gêm ei hun

Yn gynnar yn y gêm roedd Phil Bennett (y maswr), Terry Cobner (y blanesgellwr) ac Elgan Rees (yr asgellwr) yn serennu, wrth i bymtheg Phil Bennett (gan roi eu teitl swyddogol iddynt) ruthro ar y blaen gydag ugain pwynt o fantais, chwarter ffordd drwy’r gêm, gyda cheisiau gan y canolwr David Burcher (2) a chais yr un i Bennett ac Elgan Rees. Llwyddodd  y canolwr arall, Steve Fenwick o Ben-y-bont, i drosi dwy o’r ceisiadau.

Llanbed yn taro’n ôl

Cafwyd ymateb yn llawn ysbryd gan dîm Llanbed ac wedi iddynt ennill meddiant o dafliad i’r llinell, fe daranodd y blaenasgellwr grymus Edward Morris dros y llinell gais, ond methwyd y trosiad. Pedwar pwynt oedd am gais yn y dyddiau hynny.

Gyda chapten y tîm cartref Kevin Doyle, yn arwain y blaenwyr yn ddewr a’r ail reng gwadd o Lanelli, Phil May, yn ennill pêl dda o’r llinell, roedd hyn yn galluogi’r mewnwr dawnus  Aubrey Morris i ddarparu gwasanaeth gwych i gefnwyr dawnus Llanbed, gan gynnwys  Bryn Gregson, Alan Thomas, Wyn Evans a Wyn Davies, y cefnwr oedd fel craig yr oesoedd.

Yn wir, roedd llawer o sêr y tîm cartref eisoes wedi cynrychioli Llanelli yn ystod oes aur Tre’r Sosban, gan gynnwys Kevin Doyle, Alan Thomas, Wyn Evans a Keith Pugh. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, fe fyddai Mark Douglas o Gwmann yn aelod cyson o dîm Llanelli, gan ei gynrychioli yn llanc deunaw oed yn erbyn y Crysau Duon yn 1980 ac ennill tri chap i Gymru a chynrychioli’r Barbariaid.

Y Cymry o garfan y Llewod

Ond y Llewod yn ennill

Ar yr egwyl, roedd y Llewod wedi ymestyn eu mantais i 32 pwynt i 4 ,diolch i geisiadau pellach gan Gareth Evans o Gasnewydd, Elgan Rees a Derek Quinnell, y clo o Lanelli. Er gwaethaf ymgais ddewr y tîm cartref i gau’r bwlch, roedd yr ymwelwyr yn feistri corn wrth iddynt sgorio ceisiadau pellach, diolch i Elgan Rees (2), Trefor Evans (blaenasgellwr Abertawe), Gareth Evans (canolwr/cefnwr Casnewydd), Jeff Squire (rheng ôl Casnewydd), Phil Bennett a’r mewnwr o Aberporth, Brynmor Williams.

Daeth diddanwch y noson i ben gyda throsiadau llwyddiannus gan Rees a Williams a thîm Phil Bennett yn fuddugol o 64 pwynt i 4.

Carfan y Llewod Cymreig:

Graham Price, Bobby Windsor, Charlie Faulkner (Pont-y-pŵl), Allan Martin (Aberafan), Derek Quinnell (Llanelli), Terry Cobner (Pont-y-pŵl), Trefor Evans (Abertawe), Jeff Squire (Casnewydd), Brynmor Williams (Caerdydd a Sir Aberteifi), Phil Bennett (Llanelli), Elgan Rees (Castell-nedd), David Burcher (Casnewydd), Steve Fenwick (Pen-y-bont), J.J Williams (Llanelli) a Gareth Evans (Casnewydd).

Carfan Llanbed:

Kevin Doyle (Capten), Daniel Williams, John Williams (Llanelli); Geoff Wheel (Abertawe), Phil May (Llanelli); Mark Keyworth (Abertawe), Edward Morris, Hefin Jenkins (Llanelli), Roy Thomas, Bryn Gregson; Wyn Evans, Keith Pugh, James Williams, Wyn Davies (cefnwr) ac Alan Thomas.

Yr eilyddion oedd: Daniel Rees, Aubrey Morris, Wyn Williams, Steve Edwards, Siriol Evans, Ieuan Jones, Ron Thomas ac Adrian Evans.

Fel y gwelwch, roedd y tîm cartref wedi ei gryfhau gan ambell i chwaraewr dosbarth cyntaf, ond yn anffodus rhaid oedd i’r chwedlonol Geoff Wheel ildio ei le oherwydd anaf.

Y dyfarnwr yn cadw trefn ar bethau oedd Mr G. Watts o Landybie.