Trafnidiaeth, amaeth, addysg, iechyd a’r economi.
Dyna rai o’r pynciau llosg mewn cyfarfod cyhoeddus gyda’r Prif Weinidog yn Llanbedr Pont Steffan nos Iau (Mehefin 22).
Roedd y cyfarfod yn rhan o gyfres ‘Cyfarfod Carwyn’ lle mae’r Prif Weinidog yn teithio i bob cwr o Gymru, a’r wythnos hon tro Llanbed oedd hi dan gadeiryddiaeth Dylan Lewis.
O ran trafnidiaeth, fe gafodd aelodau’r gynulleidfa gyfle i holi mwy am amserlen ailagor y rheilffordd o Gaerfyrddin, cynlluniau i wella ansawdd ffyrdd a dyfodol hirdymor y gwasanaeth bws rhwng Aberystwyth a Chaerdydd.
Un o’r prif bynciau eraill oedd addysg, a hynny wrth i’r cyfarfod gael ei gynnal yn neuadd y Brifysgol yn Llanbed. Bu galwadau am sicrhau buddsoddiad i bynciau’r dyniaethau yn y dyfodol, ac i ddiogelu swyddi wrth bwysleisio cyfraniad economaidd y Brifysgol i’r ardal.
Amaeth
O ran amaeth, fe gododd Dai Davies Gwarffynnon amryw gwestiynau o ran dyfodol cymorthdaliadau i ffermwyr a pha farchnadoedd fyddai ar gael i gynnyrch Cymru wedi Brexit.
Dywedodd Carwyn Jones fod cynnal cymorthdaliadau yn “hollbwysig” a’i fod am weld pwerau amaeth yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu trosglwyddo i Gymru yn hytrach na’u canoli gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Er mwyn sicrhau bod ffermio’n gynaliadwy yng Nghymru mae’n rhaid cael system o gymorthdaliadau er mwyn cynnal cefn gwlad, sicrhau fod busnesau’n parhau ac er mwyn sicrhau sylfaen gadarn i’r iaith Gymraeg,” meddai Carwyn Jones.
Ychwanegodd ei fod am weld cyllid amaeth yn cael ei roi “mewn crochan arall” fel na fyddai’n cystadlu â’r gwariant at wasanaethau iechyd neu addysg.
A chyn cloi’r noson, fe groesawodd y cadeirydd Aelod Seneddol newydd Ceredigion, Ben Lake, oedd yn bresennol yn y gynulleidfa. Dyma flas o’r noson…