Grŵp i drafod a rhannu profiadau am epilepsi
Mae grŵp newydd i drafod a chynnig cymorth i bobol sy’n dioddef o epilepsi wedi cael ei lansio yn Llanbed am y tro cyntaf.
Daeth criw ynghyd nos Iau (Hydref 5) yng nghaffi Granny’s Kitchen i lansio’r grŵp a fydd yn cwrdd o hyn allan ar ddydd Iau cyntaf pob mis am 6.30yh.
Yn ôl Ann Sivapatham, Rheolwr Grŵp Gweithredu Epilepsi Cymru – “does dim llawer o wybodaeth ar gael i bobol sy’n dioddef o epilepsi yng Ngheredigion ar hyn o bryd.”
Dim ond un grŵp tebyg sy’n bodoli yn y sir, sef y grŵp yn Aberystwyth sydd wedi’i sefydlu ers wyth mlynedd.
‘Sgwrsio a rhannu profiadau’
Ychwanegodd Ann Sivapatham nad oes nyrs arbenigol i oedolion na nyrs pediatrig arbenigol i epilepsi ar gael yng Ngheredigion.
“Mae’n dal i fod yn rhywbeth cymhleth a does llawer o bobol ddim yn siarad amdano – yn enwedig mewn ardal wledig fel Llanbed,” meddai.
“Y bwriad ydy dod â phobol ynghyd i sgwrsio, i rannu profiadau a chreu cysylltiadau.”
“Does dim yn well na siarad am eich profiad gyda rhywun arall sy’n deall yn iawn sut chi’n teimlo.”
Mae’n ychwanegu fod modd cael rhagor o wybodaeth drwy ffonio 01633 253407 neu anfon e-bost at asivapatham@epilepsy.org.uk