Cyhoeddi hunangofiant Aled W. Williams – Cerrig Milltir

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Ymhen wythnos fe fydd cyn-Offeiriad Llanbed yn cyhoeddi dwy gyfrol, sef hunangofiant yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Esboniodd y Parchedig Aled W. Williams ei fod wedi penderfynu cofnodi hanes ei deulu rhyw dair blynedd yn ôl pan fu farw ei fam, tri mis cyn dathlu’i phen-blwydd yn gant oed.

“Fe ddechreuais i bwyso a mesur hanes y teulu, a meddwl fod angen rhoi pethau ar gof a chadw i’r genhedlaeth nesaf,” meddai.

Cerrig milltir

Dewisodd y teitlau Cerrig Milltir a Milestones am ei fod yn bwrw golwg ar ei fagwraeth ym Mhontypridd cyn symud gyda’i deulu i Lanbadarn Fawr yn Aberystwyth.

Yn ystod ei yrfa bu’n gwasanaethu yn Llanelli cyn symud i Foncath yng ngogledd Sir Benfro yn yr 1970au.

“Mi oedd hynny’n dipyn o newid,” meddai gan ychwanegu – “roedd Llanelli yn ardal weddol ddiwydiannol yn y cyfnod gyda’r gwaith dur, ac roedd hi’n wahaniaeth mawr symud i ardal wledig ac amaethyddol y Preseli.”

 Atgofion

Ar ddechrau’r 1980au symudodd i Geredigion ac i blwyf Llanddewi Brefi lle treuliodd ugain mlynedd cyn cymryd cyfrifoldeb dros Eglwys Llanbedr Pont Steffan yn 2001.

Bellach mae’n dal i wasanaethu yn eglwysi Bronwydd, Llanpumsaint a Llanllawddog yn Sir Gaerfyrddin er iddo ymddeol yn 2011.

Dywed fod yr eglwys “wedi esblygu” dros y blynyddoedd ond bod heriau’n parhau i’w hwynebu o ran aelodaeth a datblygiadau’r dyfodol.

“Mae llawer iawn o atgofion gen i, ond y pleser mwya’ yw cwrdd â’r holl bobol ar hyd y daith.”

Bydd ei gyfrolau’n cael eu lansio yn Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan ar Fai 18 am 7yh.