Cynhaliwyd cystadlaethau barnu stoc ar ddwy noson eleni, sef y 7fed a’r 8fed o Awst. Daeth criw dda i gystadlu yn y dair cystadleuaeth a braf oedd gweld wynebau newydd yn ogystal â’r rhai arferol.
Nos Lun bu cystadleuaeth barnu gwartheg gordro yn Tynlofft, Silian, drwy garedigrwydd teulu’r Davies. Beirniad y noson oedd Dion Davies, Fron, Pontsian. Dyma’r canlyniadau:
Dan 18 oed
1af Ieuan James, C.Ff.I Troedyraur
2il Rebeca James, C.Ff.I Llanddewi Brefi
3ydd Gethin Evans, C.Ff.I Troedyraur
4ydd Morgan Williams, C.Ff.I Felinfach
Dan 26 oed
1af Anwen Jones, C.Ff.I Llanllwni
2il Iestyn Russell, C.Ff.I Cwmann
3ydd Aaron Dafydd, C.Ff.I Bro’r Dderi
Agored
1af Hefin Evans, Capel Iwan
2il Iestyn Davies, Capel Iwan
Nos Fawrth bu cystadlaethau barnu gwartheg biff a wyn tew yn Cwmhendryd, Llanbed, drwy garedigrwydd teulu’r Hughes.
Yn beirniadu’r gystadleuaeth gwartheg biff oedd Dafydd Lewis, Pentwyn, Cwrt y Cadno. Dyma’r canlyniadau:
Dan 18 oed
1af Beca Jenkins, C.Ff.I Pontsian
2il Gethin Morgans, C.Ff.I Llanwenog
3ydd Gethin Evans, C.Ff.I Troedyraur
4ydd Angharad Evans, C.Ff.I Llanddewi Brefi
Dan 26 oed
1af Anwen Jones, C.Ff.I Llanllwni
2il Sara Non, C.Ff.I Llanfynydd
3ydd Ffion Medi Rees, C.Ff.I Llanfynydd
4ydd Sioned Evans, C.Ff.I Llanddewi Brefi
Agored
Yn gydradd gyntaf oedd Elfyn Morgans, Glwydwen, Gorsgoch ac Iwan Jenkins, Tyllwyd, Llanbed.
Beirniad y gystadleuaeth barnu wyn tew oedd Mathew Brown, Llanpumsaint. Dyma’r canlyniadau:
Dan 18 oed
1af Elin Rattray, C.Ff. I Trisant
2il Rebeca James, C.Ff.I Llanddewi Brefi
3ydd Beca Jenkins, C.Ff.I Pontsian
4ydd Dwynwen Jones, C.Ff.I Tregaron
Dan 26 oed
1af Anwen Jones, C.Ff.I Llanllwni
2il Iestyn Russell, Cwmann
3ydd Ffion Medi Rees, C.Ff.I Llanfynydd
4ydd Elin Childs, C.Ff.I Llanfynydd
Agored
1af John Green, Blaenplwyf, Llanfair Clydogau
2il Elfyn Morgans, Glwydwern, Gorsgoch
Ennillydd Cwpan Her Parhaol er cof am Lloyd Davies, Pontfaen yn rhoddedig gan Mr a Mrs A Hughes, Cwmhendryd, Llanbed ynghyd â chwpan i’w gadw, i’r unigolyn gyda’r marciau uchaf yng nghystadleuaeth barnu’r gwarthwg biff oedd Anwen Jones, C.Ff.I Llanllwni.
Ennillydd cwpan Her Parhaol er cof am D T Jones, Cilerwisg yn rhoddedig gan Mr G Jones, Cilerwisg i’r unigolyn gyda’r marciau uchaf yn holl gystadlaethau barnu stoc C.Ff.I oedd Anwen Jones, C.Ff.I Llanllwni.
Rhoddwyd canmoliaeth uchel i Dwynwen Jones, C.Ff.I Tregaron am ddweud ei rhesymau yn Gymraeg, ddim yn dasg hawdd. Braf oedd clywed y beirniaid yn dweud bod yna safon uchel i’r cystadlaethau yn enwedig y rhai ifancaf. Gobeithio eich gweld i gyd eto’r flwyddyn nesaf.
Diolch i’r ddau le, sef Tynlofft a Cwmhendryd am ddarparu’r gwartheg safonol ac i’r gwragedd a’u cynorthwywyr am y lluniaeeth hyfryd a ddarparwyd ar y ddwy noson hefyd i Gareth Jones, Cilerwisg am ddod â’r wyn tew nos Fawrth.
Diolch i bawb wnaeth gyfrannu at y gwobrau gogyfer â’r dair gystadleuaeth.
Welwn ni chi ddydd Gwener.