Dawn arbennig Bethan Phillips

gan Twynog Davies
Bethan Phillips
Bethan Phillips

Dyma’r ail waith i Gymdeithas Ddiwylliadol Shiloh a Soar, Llanbed drefnu cyfarfod i fwynhau a gwerthfawrogi dawn arbennig Bethan Phillips, Maesyllan fel llenor.

Ymhlith yr hyn a ysgrifennodd mae Dyddiaduron Pity the Swagman, Cyfrol Peterwell: The history of a mansion and its infamous squire, Dihirod Dyfed, Rhwng Dau Fyd: Y Swagman o Geredigion, Sarah Abel Morgan (Almanac), Nifer o erthyglau ac adolygiadau yn y Western Mail, Y Faner, Country Quest, Planet.

Y tro yma, roedd ei phriod John Phillips wedi trefnu i’r gynulleidfa luosog a ddaeth ynghyd i ail fyw bywyd y cymeriad cymhleth o Drecefel Tregaron – Joseph Jenkins a hynny yn cael ei bortreadu yn broffesiynol iawn gan yr actor Dafydd Hywel.

Ar ôl cael ei feirniadu a’i guro am ei fywyd oferedd a’i driniaeth o’i deulu, mi benderfynodd codi pac ac ymfudo i Awstralia. Yn rhyfedd iawn, mi adawodd yr orsaf yn Llanio ar y 7 fed o Ragfyr 1868 i ddal y llong yn Lerpwl a ninnau yn cyfarfod 49 mlynedd i’r diwrnod ar y 7fed o Ragfyr 2017.  Mi gymerodd y daith ar y llong 87
diwrnod cyn cyrraedd Melbourne.

Y Swagman o Geredigion
Y Swagman o Geredigion

Er i fywyd Joseph Jenkins yn Awstralia fod yn anodd tu hwnt, gyda gwaith ac arian yn brin, mi lwyddodd i aros yno am dros 25 o flynyddoedd cyn i’w iechyd ddiriwio.  Penderfynnodd ddod yn ôl i Drecefel yn 1895 ond bu farw yn 1898. Cadwodd ddyddiadur manwl ac yr oedd yn dasg enfawr i Bethan ddod â stori y Swagman yn fyw i ni – yn wir, mae’r hanes yn fwy poblogaidd yn Awstralia nag yw yng Nghymru ac mae’r  llyfr bellach allan o brint.

Mwynhâd pur oedd gweld yr hanes ar ffilm.  Roedd portreadu y Swagman yn ôl pob hanes yn un o uchafbwyntiau gyrfa Dafydd Hywel.

Gwelwyd ffilm hefyd o Bethan yn sôn am hanes yr hen Blasdy yn Peterwell a Goronwy Evans yn cyfeirio mewn cyfweliad at hanes tref Llanbed a’i phobl. Diolchodd y Llywydd Philip Lodwig i John Phillips am wneud y trefniadau ac am brynhawn a erys yn hir yn y cof.