Deiseb yn galw am achub y Llew Du

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae deiseb ar-lein sy’n galw am achub gwesty’r Llew Du yn Llanbed bron iawn â chyrraedd ei tharged.

Hyd yn hyn, mae mwy na 300 o bobol wedi arwyddo’r ddeiseb gafodd ei sefydlu gan Georgie Webster ar wefan 38 degrees.

Mae’r ddeiseb yn galw am gadw’r Llew Du ar agor ynghyd â’i “staff ffantastig.”

Cau ar ddiwedd y mis

Ddiwedd mis Awst fe gyhoeddodd cwmni SA Brains y byddai’r gwesty yn cau ar Fedi 30 gan olygu y bydd 17 o’r swyddi sy’n gysylltiedig â’r lle yn y fantol.

Er hyn mae’r cwmni wedi cadarnhau eu bod nhw “mewn trafodaethau â’r staff” i geisio dod o hyd i swyddi eraill a’u bod am “ddiolch am eu dealltwriaeth gyda’r mater hwn.”

Mewn datganiad ar y pryd fe ddywedodd y cwmni eu bod yn cau’r gwesty oherwydd “cwymp mewn refeniw gwerthiant” gan olygu fod y busnes yn “amhroffidiol.”

‘Arbennig’

Mae’r ddeiseb ar-lein yn tynnu sylw at werth y gwesty sy’n adeilad cofrestredig gradd 2 gan nodi ei fod yn gyrchfan sy’n cynnig llety yn y dref.

“Mae nifer o’r bobol leol yn mwynhau diod yn y dafarn hon sy’n cael ei rhedeg gan bâr teuluol sydd wedi mynd y tu hwnt i bopeth i wneud y Llew Du yn arbennig unwaith eto,” meddai geiriad y ddeiseb.