Eisteddfod ‘Aur’ Llanbedr Pont Steffan

Delyth Phillips
gan Delyth Phillips

Eleni, mae Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan yn dathlu’r hanner cant. Dyma un o eisteddfodau mawr Cymru. Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, Awst 1967, mewn pabell.

Gŵyl undydd oedd yr Eisteddfod gyntaf; bellach mae’n para tridiau. Bydd yr Eisteddfod eleni ar benwythnos Gŵyl Banc Awst, sef 26, 27 a 28, yn Ysgol Bro Pedr. Mae blas lleol i’r Eisteddfod ar y dydd Sadwrn, gyda chyfle i blant y dalgylch serennu ar y llwyfan. Ar y dydd Sul, cynhelir oedfa’r Eisteddfod yn y bore, a Llais Llwyfan Llambed gyda’r hwyr. A cheir diwrnod cyfan o gystadlu ar y dydd Llun, yn ogystal â Thalwrn y Beirdd yn festri Shiloh.

Mae Rhestr Testunau a Rhaglen yr Eisteddfod eleni wedi’i gyhoeddi. Ond os nad ydych wedi cael cyfle i fachu’ch copi eto, dyma gopi PDF. Pob hwyl ar yr ymarfer, y dysgu, y cyfansoddi a’r creu!

Rhaglen 2017