Mae bachgen ifanc, 14 oed, o Gwmann yn prysur gwneud enw iddo’i hun ym myd golff.
Fe gafodd Bryn Thomas sydd ym mlwyddyn 10 yn Ysgol Bro Pedr ei ddewis i chwarae gyda bechgyn Cymru o dan 15 oed yn erbyn tîm Surrey yn gynharach y mis hwn.
Fe gafodd y gystadleuaeth ei chynnal yng Nghastell Gwenfô, Bro Morgannwg ar Fedi 17.
“Dyma’r tro cyntaf iddo gael ei ddewis i gystadlu gyda Chymru ac fe gafodd ei benodi’n gapten,” meddai ei dad, Donald Thomas.
“Mae hyn wedi bod yn hwb mawr iddo o ran ei hyder.”
Esboniodd fod Bryn wedi chwarae golff ers ei fod yn 9 oed ac “fe gafodd ei ddewis i sgwad hyfforddi Cymru pan oedd yn 10 oed, ac mae wedi bod yn rhan o’r ymarferion ers hynny.”
Dros y misoedd nesaf fe fydd yn parhau i hyfforddi gyda thîm dan 16 Undeb Golff Cymru gyda’r ymarferion yn cael eu cynnal yn y Celtic Manor ger Casnewydd a chwrs golff Clays ger Wrecsam.
Ond ei glwb cartref yw Cilgwyn ger Llangybi.
Ym mis Tachwedd fe fydd yn cystadlu ym mhencampwriaeth timoedd Dyfed yn Llanfair ym Muallt, ac ym mis Awst llwyddodd i ennill pencampwriaeth Cymru i fechgyn o dan 16 yn y gystadleuaeth yng nghlwb golff Cradoc ger Aberhonddu.