Hel atgofion am sinemâu’r ardal

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Victoria Hall Llanbed

Sinema Llanbed a Llanybydder mewn cyfrol newydd

Ar un adeg byddai tyrfa fawr o bobol yn heidio’n wythnosol i ddau adeilad yn yr ardal hon, sef sinema Llanbed a sinema Llanybydder.

Erbyn heddiw mae’r Victory Hall yn Llanybydder wedi’i haddasu’n siop fwyd Chineaidd, tra bod Neuadd Victoria yn Llanbed yn parhau i gynnal digwyddiadau yn y gymuned.

Ac mae’r ddau wedi ennill eu lle mewn cyfrol newydd sy’n cael ei chyhoeddi’r wythnos hon, sef The Cinemas of West Wales.

Sinema Llanbed

Yn ei gyfrol mae Alan Phillips yn esbonio fod Neuadd Victoria wedi agor yn wreiddiol yn 1905 ac wedi’i chofnodi’n sinema am y tro cyntaf yn 1931.

Erbyn yr 1950au mae cofnodion yn dangos bod cwmni ffilm teithiol yn ymweld â’r neuadd bob wythnos, ac mae’n parhau hyd heddiw’n ganolfan boblogaidd sy’n cynnal ambell noson gerddorol.

Victory Hall Llanybydder

 

Sinema Llanybydder

Wrth yrru drwy dref Llanybydder heddiw mae arwydd melyn ‘China Wok’ yn tynnu sylw, ond ar un roedd y neuadd lle mae’r lle bwyd Chineaidd yn cynnig lle i 220 o bobol eistedd.

Byddai sioeau wythnosol yn cael eu cynnal bob dydd Mercher a dydd Sadwrn dan ofal Mr a Mrs M.S. Tun oedd yn rhedeg y lle rhwng 1950 a 1956.

 

‘Atgofion melys’

Daw Alan Phillips o bentref Rhos-y-bwlch yng ngogledd Sir Benfro yn wreiddiol ac mae’n byw erbyn hyn ym Mae Colwyn.

“Ar un adeg roedd sinema ymhob tref, a dw i wedi casglu’r hanesion a’r lluniau wrth deithio trwy Gymru,” meddai.

Mae hanes mwy na 30 o sinemâu’r gorllewin yn ei gyfrol ac maen nhw’n cwmpasu ardaloedd o’r Bermo yng Ngwynedd i Lanelli yn Sir Gâr.

“Mae’r hanes yn ddiddorol iawn, ac mae gan lawer o bobol atgofion melys o’r sinemâu hyn.”