Mae tref Llanbed yn un o’r ardaloedd sydd wedi ysbrydoli cit newydd tîm rygbi Cymru.
Mae’r cit sydd wedi’i greu gan y cwmni Under Armour wedi’i ddylanwadu gan dirlun ac anthem genedlaethol Cymru – ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.
Mae Llanbed yn cael ei chydnabod yn fan geni rygbi Cymru gyda’r gêm gystadleuol gyntaf erioed wedi’i chwarae ar gaeau’r Brifysgol fwy na 150 o flynyddoedd yn ôl.
Mae erthyglau yn archifau’r Brifysgol yn cynnwys atgofion gan gyn-fyfyrwyr yn sôn am chwarae rygbi yng Ngholeg Dewi Sant yn Llanbed yn yr 1850au, gyda’r gêm swyddogol wedi’i chwarae yn 1866 rhwng Coleg Dewi Sant a Choleg Llanymddyfri.
Crys a sanau cochion
Yr ardaloedd eraill sydd wedi ysbrydoli’r cit yw Castell-nedd, Bangor a Chaerdydd ac mae’n debyg fod pob un o’r crysau gyda thopograffi wedi’u gwnïo i’r crys o amgylch yr ysgwyddau.
Mae’r cit hefyd yn dychwelyd at yr hen liwiau o grys a sanau cochion, yn hytrach na’r crys coch a’r sanau gwynion sydd wedi cael eu defnyddio yn y blynyddoedd diwethaf.
Un sydd wedi croesawu’r cit newydd yw’r cefnwr, Leah Halfpenny, sy’n mynnu bod y crys coch yn “golygu llawer” i bobol Cymru, ac yn “uno” cenedl gyfan.
“Mae teimlad y crys newydd hwn gan Under Armour yn berffaith”, meddai, “ac rwy’n gwybod y bydd y tîm yn gyffrous i’w wisgo ar y cae am y tro cyntaf pan fyddwn ni’n wynebu Awstralia fis nesaf.”