Llwyddiant Sioe Feirch Llambed

Gethin Morgan
gan Gethin Morgan

Cynhaliwyd Sioe Feirch Llambed eleni ar ddydd Sadwrn yr 22ain o Ebrill yng nghaeau Llanllyr, Talsarn. Roedd yr haul yn tywynnu o fore tan hwyr gydag ymwelwyr yn teithio o Brydain a thu hwnt ar gyfer y sioe.

Eleni, y prif bencampwr oedd Gwynfaes Seren Wledig o eiddo Meirion a Dianne Evans, Bridfa Gwynfaes, dan feirniadaeth Mr Simon Bigley o fridfa enwog Llanarth. Mae Dianne yn ddirprwy brifathrawes yn Ysgol Bro Pedr. Dyma’r trydydd tro i’r fridfa gipio pencampwriaeth y cobiau Cymreig yn y sioe.

Mae’r Sioe yn parhau i fynd o nerth i nerth ac eleni o dan gadeiryddiaeth Mr Gwyn Jones, Frongoy, gosodwyd y cylchoedd mewn trefn wahanol. Profwyd hynny i fod yn llwyddiant ysgubol gan greu gwell naws ar gyrion y cylchoedd gyda’r cyhoedd yn gallu gweld mwy o’r dosbarthiadau ar yr un adeg.