Prif Weithredwr yn pwyso am gryfhau economi wledig

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Eifion Evans
(Llun: Cyngor Sir Ceredigion)

‘Cymru wledig wedi dioddef’ yn ôl Eifion Evans o Lanwnnen 

Ers dechrau mis Hydref mae’r gŵr sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yn ardal Llanbed wedi ymgymryd â’r gwaith o fod yn Brif Weithredwr i Gyngor Sir Ceredigion. 

Mae Eifion Evans yn dweud mai cryfhau’r economi leol fydd prif flaenoriaeth y cyngor dros y blynyddoedd nesaf gan ddweud ei fod yn “gofidio am y toriadau.” 

“Dw i’n credu bod y Gymru wledig wedi dioddef ers sawl blwyddyn – ac mae ’na ddiffyg buddsoddiad wedi bod yng nghefn gwlad Cymru yn y bobol ifanc sydd gennym ni ac yn y cyfleoedd ar gyfer swyddi da yn ein hardal ni,” meddai.

“Mae’n ofid inni, a hoffwn weld cyfleoedd newydd yn cael eu creu ar draws y sir,” meddai gan ddweud ei fod am weld “mwy o gydweithio” gyda’r sector breifat “i ddenu buddsoddiad o du allan i’r sir i’r diwydiannau sydd gennym ni yma’n barod.” 

‘Ceredigion yn baradwys’ 

Mae Eifion Evans yn byw yn Llanwnnen erbyn hyn, ond mi gafodd ei eni ym Merthyr Tudful a’i fagu yn y cymoedd lle bu’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Rhydfelen ym Mhontypridd. 

Ond pan oedd yn bymtheg oed, symudodd ei deulu i Gwmann wrth i’w dad gael ei benodi’n bennaeth Ysgol Coedmor ag yntau’n wreiddiol o Lanybydder.

“Mae wedi bod yn uchelgais gen i ar hyd fy ngyrfa i arwain sefydliadau o fewn Ceredigion. Dw i wedi ystyried Ceredigion yn baradwys erioed ac mae’n lle sy’n agos iawn at fy nghalon i,” meddai wedyn.

Mwy am y stori hon ar wefan Golwg360.