Sioe Amaethyddol Llanbed 2017

gan Haf Hughes

Ar ddydd Gwener y 11eg o Awst cynhaliwyd Sioe Amaethyddol Llanbed ar gaeau Pontfaen drwy garedigrwydd Mr a Mrs Aeron Hughes a’r teulu.  Buom yn ffodus i’r glaw gadw draw am y rhan fwyaf o’r dydd a daeth tyrfa dda i fwynhau gwledd o Sioe.

Da yw nodi bod y stondinwyr ar i fyny eleni a phleser oedd croesawu pob un ohonynt.  Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb wnaeth ddod â stondin i’r Sioe i’n cefnogi boed yn fawr neu bach, gwerthfawrogwn eich gwaith caled o flaen llaw yn ogystal ag ar y diwrnod.  Mae yna Gwpan Her Parhaol yn rhoddedig gan Siambr Fasnach Llanbed i’r stondin mawr gorau ac mae John Davies, Bryncastell, yn rhoi Cwpan Her Parhaol er cof am ei wraig Betty Davies i’r stondin gorau 30x 30 neu lai. Mae yna banel o feirniaid i’r gystadleuaeth sef, Llywyddion y Gymdeithas Mr a Mrs Andrew Morgan, Maer a Maeres y Dref Mr Hag Harries ac Eiry Morgan a Chadeirydd y Siambr Fasnach a’i wraig Mr Gareth Harries.  Daethpwyd i’r penderfyniad mai’r stondin mawr gorau eleni oedd Milfeddygon Steffan Cyf  a’r stondin bach gorau oedd Welsh Mangalitza & Butchery sef y stondin gyda’r moch bach tu allan y babell.

 

Bu yna gystadlu da yn ystod y diwrnod yn adrannau’r ceffylau, gwartheg, defaid, geifr, y cŵn ac yn y babell gyda chystadlaethau crefft a chogionio.

Dyma rhai o brif ganlyniadau’r diwrnod:

Prif Pencampwr y Gwartheg oedd Limousin Pedigri o eiddo Mr Dai Thomas, Gorsgoch

Prif Pencampwr y Ceffylau oedd Ceffyl Gwedd o eiddo Elfed Davies, Blaencil-llech

Prif Pencampwr y Defaid oedd Hwrdd Texel o eiddo Teulu Jones, Beili Blue Texels.

Yn ennill cwpan er cof am Vincent Evans a gyflwynwyd i’r anifail gorau ar y cae oedd y ceffyl gwedd o eiddo Elfed Davies, Blaencil-llech.

Y person lleol cafodd y mwyaf o bwyntiau yn y babell oedd Mrs Iris Quan

 

Braf oedd cael y Neuadd Gynnyrch yn ôl eleni, yn fwy o faint a gyda fwy o gynnyrch lleol, boed yn fwyd neu chrefft.  Roedd yna arddangosfa dda o wahanol ‘Hen Beiriannau’ ac wedi dennu  cynulleidfa dda erbyn y ‘parade’ o amgylch y prif gylch erbyn diwedd y prynhawn. Gorffennwyd y diwrnod gyda’r gemau rybgi.

Gwnaeth tîm Heno ddod i ffilmio yn ystod y dydd a diolch i’r rhai fu’n siarad â hwy am eu diwrnod yn y sioe.  Ymddangoodd yr eitem ar Heno nos Lun y 21ain o Awst. 

Diolch i bawb wnaeth gyfrannu at lwyddiant y diwrnod.