Mwy nag £20,000 wedi’i godi at Gymorth Cristnogol dros dri degawd
Dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain mae gŵr o Bentre-bach ger Llanbed wedi trefnu digwyddiad sydd wedi codi tua £20,000 at waith Cymorth Cristnogol.
Daeth tyrfa ynghyd i Eglwys San Pedr nos Sadwrn (Rhagfyr 16) i’r gyngerdd garolau flynyddol dan ofal Twynog Davies.
Ac eleni roedd yn achlysur arbennig – y 30fed cyngerdd ers iddo ef a’i ddiweddar wraig, Hazel Davies, gynnal yr un gynta’.
‘Gweledigaeth’
“Fy ngwraig gafodd y weledigaeth i drefnu’r noson pan oedd y grŵp Cwlwm yn eu bri,” meddai Twynog Davies gan esbonio i’r gyngerdd gyntaf gael ei chynnal yn 1986 – a’u bod wedi colli un yn unig ers hynny o ganlyniad i dywydd garw.
“Mae dathlu’r tri deg yn dipyn o record,” meddai gan ychwanegu y byddai ei wraig “yn falch iawn o weld y gwaith yn parhau.”
Ac mae’n werthfawrogol iawn i Janet Evans o Lanbed sydd wedi trefnu’r noson dros y chwe blynedd diwethaf.
Talentau lleol
Bob blwyddyn artistiaid lleol sy’n perfformio ac mae hynny’n “dweud llawer am y talentau sydd gyda ni yn yr ardal,” meddai.
Y diddanwyr eleni oedd Côr Lleisiau’r Werin, Côr Ysgol Carreg Hirfaen, Aled Thomas, Kees Huysmans, Gwenan Jones, Lowri Elen, Gwawr Jones, Elin Williams a Pharti Llefaru Sarn Helen.
Cafodd mwy na £800 ei godi’r noson honno ar gyfer Cymorth Cristnogol ac fe fydd y Llywodraeth yn rhoi punt am bunt. Tros gyfnod o dri degawd dyw’r ffigwr ddim yn bell o £20,000, yn ôl Twynog Davies.
“Mae hynna’n arwydd o ymroddiad pawb,” meddai.