Amgueddfa Llambed yn apelio eleni eto

gan Yvonne Davies

Mae’r Amgueddfa wedi ail-agor erbyn hyn, a gobeithir y gwnaiff darllenwyr Clonc droi i mewn i weld yr arddangosiadau newydd.

Daw’r gyfres o gofnodi’r Rhyfel Mawr i ben eleni, gyda chasgliad diddorol o’r cyfnod yna.

A hithau’n gan-mlwyddiant menywod yn cael pleidleisio, ceir hanes y Suffragists a’r Suffragets.

Mae yna gasgliad o luniau ’na sydd wedi gweld golau dydd ers tua chanrif; hanes Ffair Dalis; cabinet yn llawn o waith llaw un gwraig o Lambed; hanes ardal Bro Silian, a hanes un teulu o Lambed a lwyddodd i gyflawni llawer iawn yn ystod eu gyrfaoedd.

I weld a dysgu mwy amdanynt, trowch i mewn – bydd yna groeso cynnes gan y gwirfoddolwyr ar ddyletswydd.

Mae’r oriau agor wedi newid ychydig eleni: Dydd Mawrth a Dydd Iau, 10 – 4; Dydd Mercher a Dydd Sadwrn, 11 – 2.

Cynhelir diwrnod prisio yn yr amgueddfa ar y 10fed o Fai rhwng 10yb ac 1yp.  Bydd priswr o Arwerthwyr Peter Francis, Caerfyrddin yn bresennol i brisio’ch hen drysorau yn ddi dâl.  Croeso cynnes i bawb.