Cogydd o Lanbed yn troi am Aberteifi

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Tom Holden

Tom Holden fydd Prif Gogydd bwyty 1176

Mae cynlluniau mawr ar y gweill gan gogydd o Lanbed wrth iddo gydio yn awenau bwyty’r castell yn Aberteifi.

Bydd Tom Holden yn dechrau ar y gwaith yn syth gan ddod yn gyfrifol am fwyty 1176 yng Nghastell Aberteifi.

Ac yntau wedi’i fagu ar fferm organig Bwlchywernen rhwng Llwyn-y-groes a Llangybi, mae tarddiad bwyd yn bwysig iddo, a’i obaith yw defnyddio gerddi’r castell i dyfu llysiau i’r bwyty.

“Mae defnyddio cynnyrch o ardd y gegin yn gyffrous iawn – byddaf yn gweithio’n agos â garddwr y castell, Mark Dellar, i sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r cynnyrch tymhorol gorau sydd gan yr ardd i’w gynnig.”

Pwyslais ar fwyd organig

Cyn troi am Aberteifi, bu Tom Holden yn gyfrifol am le bwyta yn nhafarn Gwarcefel, Pren-gwyn, a chyn hynny bu’n cynnal lle bwyta pop-yp yn Neuadd y Dre, Llanbed.

Mae’n cynnal gwasanaeth arlwyo ar gyfer priodasau, Holdens Catering, gyda phwyslais ar fwyd organig – hyn dan ddylanwad ei dad, Patrick Holden, sydd newydd ennill gwobr cyfraniad oes am ei waith yn hybu dulliau organig a chynaliadwy o ffermio.

Un o’i gynlluniau eraill yw agor y caffi 1176 yn fwyty gyda’r nos, a bydd yn agor gyda’r hwyr am y tro cyntaf ar nos Sadwrn, Ionawr 13.