Dyma stori am athletwraig lwyddiannus leol a ymddangosodd yn rhifyn Medi Papur Bro Clonc.
Yn dilyn tymor prysur a llwyddiannus yn ystod 2018, gan gynnwys ennill Pencampwriaeth Athletau Cymru a Phencampwriaeth Ysgolion Cymru yn y naid driphlyg o dan 17 oed, cafodd Beca Roberts o Barc-y-rhos ei dewis yn aelod o garfan Cymru i gynrychioli ei gwlad ar ddau achlysur.
Teithiodd i Stadiwm Grangemouth yn yr Alban ar yr 21ain o Orffennaf ar gyfer y Bencampwriaeth Ryngwladol i ysgolion (SIAB), gan ddychwelyd eto i’r un lle bythefnos yn ddiweddarach, ar Awst y 4ydd, ar gyfer y Gemau Celtaidd.
Gyda balchder i gynrychioli Cymru a phenderfyniad ei chymeriad, fe ymgododd Beca i’r her, gan ennill record bersonol newydd ar y ddau achlysur. Llongyfarchiadau mawr iddi a phob dymuniad da i’r dyfodol.
Yr un yw’r dymuniadau i Osian ei brawd, sydd wedi bod yn llwyddiannus mewn amryw o gystadlaethau ar draws Cymru yn y naid uchel a ras y clwydi o dan 13 oed, gan orffen y tymor ar frig y tabl cenedlaethol.
Ymfalchiwn yn llwyddiant y ddau gan gadw llygaid barcud amdanynt ar lwyfannau chwaraeon y dyfodol.