Mae teulu lleol wedi bod yn weithgar iawn yn codi arian sylweddol tuag at elusennau yn y blynyddoedd diwethaf, ac yn parhau i wneud.
Mae Bedwyr Davies o Gwmann yn rhedeg busnes hyrwyddo’r gêm dartiau sef Bishop of Bedlam ac wedi codi dros £12,000 tuag at nifer fawr o elusennau dros bum mlynedd.
Yr elusennau a elwodd o ymdrechion Bishop of Bedlam oedd Prostate Cancer UK, Cancer Research UK, Diabetes UK, Ambiwlans Awyr Cymru, Multiple Sclorosis UK a maent newydd dechrau codi tuag at Cancr y Fron ar gyfer 2018. Gallwch gyfrannu ar dudalen JustGiving.
Tra mae ei wraig Nicola wedi bod yn rhedeg 30 ras ac wedi llwyddo i godi dros £3,500 tuag at Cancer Research UK. Gallwch gyfrannu ar ei thudalen JustGiving. Mae Nicola wedi rhedeg Marathon ychwanegol yn ddiweddar ac yn bwriadu rhedeg Ultra Marathon yn y Gwanwyn. Ras o 40 milltir. Tipyn o her!
Cafodd chwaer Bedwyr, sef Rhian sy’n byw ym Mhontypridd driniaeth am gancr dros ddeng mlynedd yn ôl, ac er mwyn dathlu degawd yn rhydd o gancr, mae wedi penderfynu ymgymryd â her Beicio West Coast Velindre. Bydd hi’n beicio 600km o San Francisco i Los Angeles ym mis Medi eleni.
Mae Rhian wedi codi dros £800 yn barod ac yn gofyn yn garedig am gefnogaeth drwy wefan MyDonate.
Dywedodd mam Bedwyr a Rhian, Yvonne Davies o Drefach “Rydym yn edmygu’r tri am ymdrechu i godi arian i’r elusennau yma sy’n ymwneud â chancr. Mae’n effeithio ar gymaint ohonom – naill a’i yn bersonol, yn deuluol neu drwy ffrindiau.
“Defnyddir yr arian i gefnogi’r cleifion neu eu rhoi i waith ymchwil, – a fydd yn rhoi gobaith o wellhad llwyr o’r salwch yma, pa le bynnag y bydd yn dod i’r amlwg.”
Teulu rhyfeddol felly, yn gweithio’n ddiflino er mwyn cynorthwyo achosion da teilwng iawn yn ein cymunedau, a chefnogaeth aruthrol iddynt gan ffrindiau, teuluoedd a chydnabod.
Pob dymuniad da iddynt gyda’r heriau eleni ac edrychwn ymlaen i ddarllen am y symiau terfynol a godir.