Hanner Marathon Caerdydd yn denu cymaint o’r ardal i redeg

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
David, Christina ac Amanda
David, Christina ac Amanda

Llongyfarchiadau i bawb o ardal Clonc a fu’n rhedeg heddiw yn Hanner Marathon Caerdydd.  Tipyn o gamp yn wir.

Dewi Griffths o Abergorlech oedd y Cymro cyntaf i orffen yn ras elît y dynion mewn amser o 1 awr 2 funud 54 eiliad gan ddod yn nawfed yn gyfangwbl.

Mae’r ras eleni wedi denu 25,000 o redwyr a dyma’r 15fed tro iddi gael ei chynnal.  Roedd Cyngor Dinas Caerdydd wedi cau dros 20 o ffyrdd ac roedd y brif ddinas dan ei sang gyda tua 80,000 o gefnogwyr.

Dyma ddigwyddiad elusennol mwyaf Cymru ond roedd llawer yn rhedeg er mwyn cyflawni targed personol neu yn rhan o griw ffrindiau.

Annwen
Annwen

Llwyddodd Annwen Jones, 56 oed o Lanbed i redeg eleni am y tro cyntaf gan orffen mewn 2 awr 47 munud 47 eiliad barchus.  Doedd hi ddim yn codi arian ond mae pawb o’r ardal yn llawn edmygedd ohoni am ei chyflawniad.

Doedd Meinir Jones o Gwmann ddim yn casglu arian chwaith, ond yn rhedeg er mwyn cyflawni dymuniad personol.  Llongyfarchiadau cynnes iddi am lwyddo i gyrraedd y linell derfyn mewn 2 awr, 16 munud 20 eiliad.

Roedd Christina Davies o Lanbed a’i hewyrth a’i modryb David ac Amanda yn rhedeg er mwyn codi arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.  Cafodd tad Christina ddamwain nôl ym mis Ionawr a chael ei gludo yn yr hofrennydd ar frys i Gaerdydd. Mae ganddi wefan JustGiving ond maen nhw wedi casglu mwy ar daflen noddi gyda chefnogaeth bobl leol. Maen nhw wedi casglu £1,900 hyd yn hyn.  Amser Christina oedd 2 awr 42 munud. Gwaith gwych gan y tri.

Sioned a David.
Sioned a David.

Rhedeg er cof am Mari-Leisa Jên oedd David Heath a Sioned Owens o Lanbed ar ran Clare Last a Gareth Isaac sy’n ffrindiau agos iawn iddynt.  Mis Hydref yw Mis Ymwybyddiaeth Colli Plentyn a Beichiogrwydd. “Mae teulu Mari-Leisa ar hyn o bryd yn codi arian at ‘Cuddle Cots’ newydd i Geredigion felly arian at hwnnw yw popeth!” meddai David.  Ma gan Clare a Gareth dudalen JustGiving ac mae e’n annog pawb i gyfrannu.  Amser David yn y marathon heddiw oedd 2 awr 14 munud 23 eiliad a Sioned yn 2 awr 30 munud 11 eiliad. “Ma Gareth a Clare yn ffrindiau agos iawn i ni a ma colled Mari fach wedi cael ei deimlo gan bawb” ychwanegodd.

Anwen, Linda a Melfyn.
Anwen, Linda a Melfyn.

Doedd Anwen Lloyd-Thomas o Lanllwni ddim yn poeni am yr amser. “Dim ond ei gwblhau.  ‘Na beth oedd yn bwysig i fi a derbyn medal” oedd ei hymateb y prynhawn ‘ma.  “Rodd e’n brofiad a hanner.  ‘Na’r tro cynta i fi neud e.”   Roedd hi hefyd yn casglu arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru, ac mae ganddi ffurflen yn y siop yn Llanllwni petai unrhyw un am gyfrannu.

Ardderchog wir.  Cadw’n heini, cyrraedd y nod a chodi arian da at elusennau.  Diwrnod bythgofiadwy i lawer yn Hanner Marathon Caerdydd.

Rydym yn ymwybodol bod llawer o bobl eraill o’r ardal wedi cymryd rhan heddiw.  Da iawn chi, a chofiwch ddanfon eich lluniau a’ch straeon ar gyfer rhifyn nesaf Papur Bro Clonc.