Hari yn bowlio dros Gymru

gan Alis Butten

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae Hari Butten o Gellan wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer dau benwythnos o gemau cystadleuol yn gwisgo’r crys coch.

Cafodd Hari, sy’n perthyn i Glwb Bowlio Llanbedr Pont Steffan, yr alwad i fynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn bowlio lawnt yng nghanol yr haf ac ers hynny mae e wedi bod yn ymarfer ac yn cystadlu’n galed o fewn y Clwb a’r Sir.

Ar benwythnos 7fed o Fedi fe wnaeth Hari dderbyn Cap llawn Cymru i’r tîm bechgyn dan 25 blwydd oed ym Melfast, Iwerddon.

Mewn sgwad o 26 fe wnaeth gystadlu yn erbyn yr Alban, Lloegr ac Iwerddon. Er i’r sgôr terfynol ddim mynd ffordd y Cymry y tro hyn. Fformat y gyfres yw chwech ‘rink’ wedi gwneud allan o bedwar chwaraewr a dau eilydd os oes eisiau gwneud newidiadau. Mae tîm Cymru yn cynnwys bechgyn ar draws Cymru er i’r mwyafrif ddod o’r de. Yn ‘rink’ Hari roedd Nathan Salmon (Caerdydd), Matthew Davies (Cross Keys) a Dom Hardy (Kerry), fel pedwar fe wnaethon golli yn erbyn Lloegr (27-11), gêm agos yn erbyn Iwerddon (21-20) ac ennill yn erbyn yr Alban (22-20). Y sgorau terfynol ar draws y tîm oedd colli pob gêm er i’r Cymry roi ei ergyd gorau yn erbyn yr enillwyr, yr Alban, gyda’r gêm yn dod lawr i un pwynt ar draws y lawnt.

Y sgorau terfynol:

Cymru 97 – 146 Lloegr

Nathan Salmon, Matthew Davies, Hari Butten a Dom Hardy yn dathlu yn erbyn yr Alban.

Cymru 110 – 130 Iwerddon

Cymru 127 – 128 Yr Alban

 

Yn ogystal â chwarae fel rhan o dîm dan 25 Cymru, cafodd Hari ei ddewis i fod yn rhan o’r gêm brawf dan 18 yn erbyn Lloegr penwythnos diwethaf. Sgwad o ddeuddeg, chwech bachgen a chwech merch. Cafodd Hari canlyniadau llwyddiannus yn ystod y penwythnos, gan gynnwys ennill y parau cymysg 23-15 gyda Lauren Gowen o Borth. Ar ddiwedd y gyfres daeth Cymru i’r brig am y tro cyntaf ers i’r gêm brawf flynyddol ddechrau yn 2015.

Ar ôl tymor o fowlio llwyddiannus i Hari fel rhan o sgwad Cymru ac ymysg y Sir yn cyrraedd sawl ffeinal, bydd rhaid iddo aros tan fis Mai nesaf i’r tymor tu allan ail gychwyn. Antur newydd sydd iddo dros y misoedd nesaf gan iddo symud i Gaerdydd i wneud gradd ym Mhrifysgol Caerdydd mewn criminoleg a chymdeithaseg. Yn ogystal â hynny mae e wedi ymuno â Chlwb Bowlio dan do Caerdydd yng Ngerddi Soffia, felly pwy a ŵyr pa lwyddiannau sydd eto i ddod.

Hari a Lauren Gowen yn y gêm prawf dan 18 yn erbyn Lloegr.