Pentrefwyr yn dod yngyd i gasglu sbwriel

gan Dan ac Aerwen

Ydych chi wedi sylwi bod mwy o sbwriel ar ochr ein ffyrdd y dyddiau hyn?  Oes rhywbeth yn cael ei wneud am y peth?

Gan fod llawer o bentrefwyr Llanfair Clydogau wedi sylwi fod sbwriel yn sarnu harddwch yr ardal, penderfynwyd mynd ati i drefnu bore pan fyddai pawb gyda diddordeb yn gallu cwrdd tu allan i’r neuadd i gasglu’r sbwriel.

Y brunch yn y Neuadd wedi'r casglu.
Y brunch yn y Neuadd wedi’r casglu.

Y bore hwnnw oedd dydd Sul, Ionawr 14eg am 10 o’r gloch, pan ddaeth tua 30 ynghyd, yn cynnwys oedolion a phlant. Buont yn casglu am dros awr tra bu grŵp o’r gwragedd yn paratoi ‘brunch’ i bawb yn Neuadd y Pentref erbyn iddynt orffen.

Cafwyd bore llwyddiannus gyda phawb yn cymdeithasu ar ôl gorffen, dros fwyd blasus iawn. Llanwyd bagiau di-ri o sbwriel. Gobeithio bydd pawb yn mynd â’u sbwriel adre o hyn allan.

Beth yw’r sefyllfa mewn ardaloedd eraill?  Beth am fynd ati i drefnu ymgyrch tebyg yn eich ardal chi?