Ras Fynydd Sarn Helen

gan Richard Marks
Ken Caulkett
Ken Caulkett

Ar 20fed o Fai eleni cynhaliwyd ras hynaf y Clwb unwaith eto a daeth 39 i gystadlu. Cwblhaodd Ken Caulkett a Dee Jolly o glwb Sarn Helen fis o lwyddiant – y naill yn ennill mewn 1 awr 56 munud 40 eiliad a’r llall yn arwain y menywod mewn 2 awr 21 munud a 28 eiliad.

Y tu ôl i Ken daeth Dan Hooper yn 3ydd (2.4.33) rhyw gamau yn unig o flaen Glyn Price (2.4.37) a ddaeth yn 1af dros 50. Meic Davies (2.11.36) oedd y 3ydd dyn rhwng 40 a 50 oed gyda Steven Holmes (2.14.51) yn 4ydd yn y dosbarth hwnnw.

Daeth Mick Taylor (2.40.17) yn 3ydd dros 50. Murray Kisbee (2.27.28) a Tony Hall (2.36.52) oedd y 1af a’r 2il dros 60. Eleri Rivers (2.34.04) oedd y fenyw gyntaf rhwng 35 a 50 oed gyda Pamela Carter (3.5.28) yn 2il a Delyth Crimes (3.7.56) yn 3ydd.

Am yr ail flwyddyn yr oedd ras ychwanegol ychydig yn llai heriol dros gwrs 9 milltir yn cyd-ddigwydd â’r brif ras. Enillwyd hon hefyd gan aelod ifanc o’r Clwb, Tomos Morgans, mewn 66 munud a 27 eiliad gyda Peter Osborne o Glwb Athletau Llanelli yn 2il a Gary Jones yn 3ydd.

Dee Jolly
Dee Jolly

Enfys Needham Jones oedd y fenyw gyntaf yn y ras hon (1 awr 29 munud a 36 eiliad) gyda Jenny Caulkett yn 2il a Donna Davies yn 3ydd.

Eleni eto yr oedd ras ieuenctid filltir a hanner ac enillwyd hon gan Dafydd Lloyd mewn 11 munud 13 eiliad gyda Daniel Jones a Rhys Williams yn dilyn.

Summer Austin Spooner oedd y ferch gyntaf (13.24) gyda Esme Lynock yn ail a Violet Caulkett yn 3ydd.