#SteddfodCardi

gan Elin Haf Jones

Wel na beth o’dd ‘Steddfod! Un wahanol iawn i’r arfer gan bo fi ffili cystadlu, ond un bishi iawn serch hynny! O’r nos Iau trwyddo i’r nos Sadwrn gath pawb o’dd ym Mhafiliwn Bont wledd.

Llongyfarchiadau mawr i glwb Felinfach am ennill – dwi’n shwr bod na ddathlu mowr ‘di bod!

Clwb arall o’dd yn dathlu o’dd clwb Trisant wedi i Megan Lewis o Lanfihangel y Creuddyn ennill y dwbwl – y gadair a’r goron, da iawn ti, ni gyd yn browd ohonot, ti wedi creu hanes yn ‘steddfod y Cardi 2018! Dyma ran o fy nghyfarch iddi –

 

Mae Trisant wrth ei boddau

Wa’th Megan, ti yw’r gorau

Mae’r dwbwl heno wedi dod

A chlod i ferch y Sarnau 

 

Cafodd y gadair hardd a oedd yn rhoddedig gan Ffarmwr Ifanc y sir, Iwan Davies a fi, brenhines y sir ei chreu gan Carwyn Davies o glwb Llanwenog a’r goron a oedd yn rhoddedig gan gadeirydd y sir, Caryl Haf ei chreu gan Alec Page, Llanbed.  

Mi ddaeth ‘na lwyddiant i Glybiau Ffermwyr Ifanc Llanwenog a Bro’r Dderi sef y clybiau sy’n lleol i Clonc yn yr Eisteddfod eleni eto gyda nifer o eitemau yn cyrraedd y 3 ucha’. Dechreuwyd nos Iau’r ‘Steddfod yn dda i glwb Llanwenog gyda’r gystadleuaeth Stori a Sain lle cipiodd Meinir Davies a Twm Ebbsworth yr ail safle, gyda Gwawr Hatcher yn drydydd ar yr alaw werin a’r parti cerdd dant yn ail hefyd, ac ar ddiwedd y noson cyhoeddwyd mai Meimio i gerddoriaeth y clwb oedd wedi ennill ac yn mynd ymlaen i Gymru – detholiad o ganeuon o’r ffilm ‘The Greatest Showman’ – perfformiad arbennig a phroffesiynol iawn.

Yna ar y dydd Sadwrn gwelwyd  y llwyddiant yn parhau i glwb Llanwenog gyda Meleri Davies yn dod yn drydydd wrth ganu emyn nofis, Elin Davies a Nia Morgans yn gydradd trydydd gyda’r ddeuawd, Llanwenog yn ail yn y parti unsain, yn cipio’r wobr gynta ac yn mynd ymlaen i Eisteddfod C.Ff.I Cymru yn y Barri gyda’r parti llefaru ac yna’n gorffen ar y nos Sadwrn gyda chydradd 3ydd yn y côr cymysg. Bu clwb Bro’r dderi’n cystadlu’n frwd ar y llwyfan ac yn y gwaith cartref gyda Lowri Pugh-Davies yn gydradd 3ydd yn y gwaith celf. Am ganlyniadau’r gwaith cartref a’r llwyfan yn llawn ewch draw i wefan C.Ff.I Ceredigion.

Perfformiadau oedd yn aros yn y cof o glybiau cyfagos hefyd oedd stand-yp buddugol Cennydd Jones o glwb Pontsian, deauawd doniol Gwenan a Lia o Fydroilyn a stori a sain Bleddyn a Rhian, C.Ff.I Felinfach.

Cyn cloi hoffwn longyfarch pob un aelod a gamodd ar y llwyfan i gystadlu neu aeth ati i gyfansoddi a chreu yn yr adran gwaith cartref – chi gyd yn sêr, a joies i fy ‘steddfod cynta’ i fel aelod newydd ymddeol mas draw yn eich cwmni chi gyd! Llongyfarchiadau i glwb Pontsian am ennill yr adran ysgafn, Llanwenog am ennill yr adran lwyfan ac i glwb Felinfach am ennill yr adran waith cartref a’r eisteddfod – gwych! Pob lwc i bawb sy’n mynd mlan i Gymru ymhen pythefnos – wela’i chi na!