Llongyfarchiadau i Aled Wyn Thomas, Llanwnnen ar ei lwyddiant mawr yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Enillodd Aled gystadleuaeth Unawd Tenor 25 oed a throsodd neithiwr ar y llwyfan mawr yn Llanrwst a chystadleuaeth Unawd Lieder 25 oed a throsodd heddiw. Tipyn o gamp.
Mae llawer yn ei gofio yn cystadlu ar lwyfannau lleol ond mae bellach yn gyfrifydd yng Nghaerdydd ac yn canu gyda Chôr Caerdydd a Cywair.
Mae e wedi cystadlu yn y Genedlaethol dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan gipio’r ail a’r drydedd wobr. Ond eleni, mae e wedi cyrraedd y brig mewn dwy gystadleuaeth o safon uchel iawn.
Hyfforddir Aled gan David Fortey a Gail Perason.
Bydd yn cystadlu nesaf ar gystadleuaeth y Rhuban Glas prynhawn ‘ma sef Gwobr Goffa David Ellis. Cofiwch wrando a phob dymuniad da iddo.