Ansicrwydd o hyd am ddyfodol y Brifysgol

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae poblogaeth Campws Llanbed wedi haneru dros y pum mlynedd ddiwethaf, ond mae cynlluniau i ddatblygu’r campws yn y dyfodol agos yn ôl y Deon Dr Jeremy Smith.

Mae ailstrwythuro mawr yn digwydd oherwydd bod llai o fyfyrwyr yn astudio yn Llanbed, meddai’r Deon yng nghyfarfod Cyngor Tref Llanbed ym mis Ebrill.

Cynlluniau at y dyfodol

Soniodd Dr Smith am gynllun i sefydlu academi ryngwladol ar gyfer y Fagloriaeth Ryngwladol, er mwyn manteisio ar y farchnad addysg gynyddol yn Tsieina a’r Dwyrain Pell.

Roedd y Cyng. Ann Bowen Morgan yn becso y byddai hyn yn newid natur campws Llanbed a’i safle fel rhan o brifysgol Gymreig.

Cyfeiriodd Dr Smith hefyd at gynlluniau’r Brifysgol at y dyfodol, gan gynnwys partneriaeth â Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, ac ehangu’r Academi Sinoleg lwyddiannus.

Fe wnaeth e gydnabod nad yw’r cyfathrebu am y diswyddiadau wedi bod yn wych.

Prifysgol yn gwadu dyfodol ansicr

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant eu bod nhw’n ystyried torri 100 o swyddi mewn ymgais i arbed £6.5m.

Cafodd golwg360 ar ddeall fod rhai aelodau staff eisoes wedi gorfod ailymgeisio am swyddi neu adleoli i gampysau eraill y Brifysgol.

Gwadodd y Brifysgol fod dyfodol campws Llanbed yn y fantol. Dywedodd llefarydd fod y Brifysgol am wneud campws Llanbed yn ganolbwynt strategol a fydd yn chwarae rhan flaenllaw yn lles economaidd a chymdeithasol y rhanbarth.

Nododd eu bod wedi derbyn buddsoddiad o £5m yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn cefnogi gweithgarwch rhyngwladol, a bod £1m ar gael ar gyfer astudiaethau ôl-radd.

Cais am sicrhad

Yng nghyfarfod Cyngor Tref Llanbed ym mis Mehefin, penderfynwyd cysylltu â Gwilym Dyfri Jones, y Profost newydd i’r Brifysgol, i’w wahodd i siarad â’r Cyngor am y sefyllfa ddiweddaraf.

Yn yr un cyfarfod galwodd Maer y Dref am ragor o fuddsoddiad gan Brifysgol Cymru yng nghampws Llanbed. Cyfeiriodd at ddatblygiadau’r Brifysgol ar gampws Abertawe, a’r Egin yng Nghaerfyrddin, a sut y byddai’r Cyngor Tref  yn hoffi gweld datblygu tebyg ar gampws Llanbed.

Fe holodd golwg360 i’r Brifysgol am fanylion y cynlluniau, ond does dim ymateb wedi dod ganddynt hyd yn hyn.

Bydd cyfarfod nesaf y Cyngor nos Iau 28 Medi yn Neuadd Victoria am 7:30pm.