Mae postmon cyfeillgar o Lanbed ar fin dechrau ar her enfawr o gerdded 870 milltir Llwybr Arfordir Cymru o Gaer i Gasgwent mewn 33 diwrnod neu lai, er budd Ymchwil Canser.
Mae Barry Davies, neu Finch i’w gyfeillion yn gwneud hyn er cof am ei ddiweddar dad John ‘Flash’ James a gollodd ei frwydr yn erbyn y clefyd ofnadwy yn 2015.
Ei nod yw cerdded tua 30 milltir y dydd. Bydd Barry’n cael ei gefnogi gan deulu, ffrindiau a’i gyd chwaraewyr rygbi ar y ffordd, boed yn cerdded peth o’r daith gydag ef neu helpu gyda’r cerbyd cefnogi, symud pebyll a charafannau o un safle i’r llall.
Dyma ddolen i dudalen codi arian Barry lle gallwch ei noddi. Ei darged oedd £1,500 ond mae wedi croesi hynny cyn dechrau’r daith hyd yn oed. Mae ganddo grŵp Facebook ‘870 + / 33-‘ lle gallwch weld sut mae ef a’r tîm yn dod ymlaen. Mae croeso i chi ymuno, a cherdded rhan o’r ffordd gyda Barry. Byddai’n flach iawn o’ch cefnogaeth.
Dyma amcan o’i daith:
10fed Mai: Caer > Prestatyn
11eg Mai: Prestatyn > Conwy
12fed Mai: Conwy > Pwynt Penmon
13eg Mai: Pwynt Penmon > Cemaes
14eg Mai: Cemaes > Ynys Lawd
15fed Mai: Ynys Lawd > Aberffraw
16eg Mai: Aberffraw > Felinheli
17eg Mai: Felinheli > Nefyn
18fed Mai: Nefyn > Rhiw
19eg Mai: Rhiw > Llanystywmdwy
20fed Mai: Llanystywmdwy > Tal-y-bont (Y Bermo)
21ain Mai: Tal-y-bont > Aberdyfi
22ain Mai: Aberdyfi > Borth
23ain Mai: Borth > Cei Newydd
24ain Mai: Cei Newydd > Llandudoch
25ain Mai: Llandudoch > Wdig
26ain Mai: Wdig > St Justinians
27ain Mai: St Justinians > St Brides Haven
28ain Mai: St Brides Haven > Neyland
29ain Mai: Neyland > Castell Martin
30ain Mai: Castell Martin > Amroth
31ain Mai: Amroth > Llangain
1af Mehefin: Llangain > Llanelli
2il Mehefin: Llanelli > Rhosili
3ydd Mehefin: Rhosili > Afon Tawe Abertawe
4ydd Mehefin: Afon Tawe Abertawe > Candleston
5ed Mehefin: Candleston > Sili
6ed Mehefin: Sili > Gwlypdir Casnewydd
7fed Mehefin: Gwlypdir Casnewydd > Casgwent
O edrych ar y rhestr uchod, mae’n dangos anferthedd yr her. Pob parch iddo a phob dymuniad da ar y daith.