Rhaid llongyfarch aelodau Cyngor Tref Llanbed a Phwyllgor Pentref Cwmann am fuddsoddi bron i ddeugain mil o bunnoedd ar gyfleusterau chwarae i blant yn yr ardal.
Mae’r cornel chwarae ger Canolfan Cymuned Cwmann wedi ei hadnewyddu a’i hadeiladu ac yn barod i’w defnyddio, ac mae’r gwaith ar adeiladu offer chwarae newydd ym Mharc yr Orsedd Llambed wedi dechrau.
Dywedodd y Cyng. Ronnie Roberts ar ran Pwyllgor Pentref Cwmann, “Mae’r lle chware newydd yn barod i’w ddefnyddio yn awr. Mae wedi costio £25,740 i’w adeiladu.”
Pwyllgor Pentref Cwmann sydd wedi ariannu’r fenter, gyda chymorth o £3,700 oddi wrth Co-op Llanbed a £5,000 oddi wrth Cyngor Sir Gâr. Llwyddodd Pwyllgor Pentre Cwmann i godi gweddill yr arian mewn digwyddiadau fel Carnifal a Mabolgampau, Ffair Ram, Rasys Cwmann 5 a rhoddion oddi wrth Cyngor Cymuned Pencarreg.
Ychwanegodd Ronnie “Bydd agoriad swyddogol y lle chware yn ystod Carnifal a Mabolgampiau ym mis Mai 2019. Mae’r lle chware yn addas i blant o 3 oed i 12 oed.”
Y Cyng. Elin T Jones sy’n gyfrifol am y gwaith ar y lle chwarae yn Llanbed sy’n costio £12,025.60. Dywedodd Elin, “Cawsom grant o £6,012 gan Gyngor Sir Ceredigion a hefyd £2,000 gan Gymdeithas Tai Cymru a’r Gorllewin.”
Ychwanegodd Elin “Bydd y lle chware yn addas i blant hyd at 8 oed ond bydd rhywbeth bach i bawb dwi’n teimlo.”
“Ar ôl sefyll dros y cyngor sir, roedd yn glir iawn i fi bod teuluoedd Llanbed eisiau lle chware addas. Mae wedi bod yn ‘pet project’ i fi mewn ffordd i weithio ar y parc – roedd y Cyng. Chris Thomas a finnau yn gweithio yn galed gyda’n gilydd i wireddu hyn – mae Chris yn wych i weithio gyda fe.”
“Bydd y parc fel lle antur gyda phob offer yn cynnig her unigryw. Dwi’n gobethio bydd plant Llanbed yn mwynhau pan fydd yn agor y mis nesaf!”
Er ein bod yn llawenhau o weld cyfleusterau newydd fel hyn ar gyfer y plant yn ein cymunedau, mae gan y Cyng. Ronnie Roberts apêl i’r preswylwyr. “Mae pwyllgor y pentre yn cynnwys 6 aelod ar hyn o bryd ac yn 72 oed ar gyfartaledd, felly rydyn ni yn chwilio am aelodau newydd i rannu y gwaith pwysig o edrych ar ôl Canolfan y Pentre a’r Cae Chware ac ati.”
Gwerthfawrogwn aelodau gweithgar sy’n rhoi eu hamser o’u gwirfodd i wella’n cymunedau. Ond beth yw pwynt buddsoddiad ariannol mawr fel hyn heb wirfoddolwyr i barhau â’r gwaith da? Y rhai sydd ganddynt glustiau, gwrandawed!