Bwriad i ailgodi Marchnad y Ffermwyr Llanbed

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Lucy Watson, o’r siop fwyd annibynnol Watson and Pratt’s, a’r Cynghorydd Dinah Mulholland, yn bwriadu ailgychwyn Marchnad y Ffermwyr yn Llanbed.

Maent wrthi’n rhoi cynllun busnes at ei gilydd ar gyfer y fenter, ac maent hefyd wedi cyfarfod ag Ellis Lloyd o Ganolfan Bwyd Cymru, a chael ei fod yn gefnogol iawn i’r syniad.

Y bwriad yw lansio’r Farchnad yng nghyfnod y Pasg 2020, a bwriedir gofyn i Gyngor Sir Ceredigion adael i bobol barcio am ddim yn y dre ar ddiwrnod y Farchnad.

Meddai’r Cynghorydd tre, Dinah Mulholland: “Rydym o ddifri ynglŷn â’r cynnig hwn, ac rydym wrthi’n rhoi cynllun busnes at ei gilydd er mwyn ceisio cymorth a chyllid.

“Byddwn yn cyflwyno’r cynnig i gyfarfod Cyngor y Dref ar gyfer y mis hwn, ac rydym yn trefnu cyflwyno i Siambr Fasnach Llanbed yn y dyfodol agos.

“Bydd yn cael ei chynnal bob pythefnos i gychwyn, ac rydym yn awyddus i weithio ochr yn ochr â marchnadoedd lleol eraill, megis Marchnad y Bobl Llanbed a Marchnad y Ffermwyr Aberystwyth, yn hytrach na gweithio yn eu herbyn.

“Rydym yn gobeithio y bydd ailsefydlu’r Farchnad yn hybu’r economi leol, ac mae Lucy a finnau’n teimlo’n gryf y gall wneud hynny os lleolir y Farchnad yng nghanol y dref.

“Cafwyd ymateb cadarnhaol gan bobl leol hyd yma.”

A fyddech chi’n dymuno gweld marchnad newydd o gynnyrch lleol yn y dre? A ydych chi’n cofio’r hen Farchnad y Ffermwyr yn Llanbed? 

Cysylltwch â morganowen@golwg.com gyda’ch sylwadau.