Cadwyn Cyfrinachau Creadigol, cydwybodol a Chariadus

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Creadigol, cydwybodol a Chariadus yw’r tri gair y mae gwrthrych colofn Cadwyn Cyfrinachau Papur Bro Clonc yn disgrifio ei hun y mis hwn.

Sian Elin o Bencarreg yw’r sbarcen sy’n ateb cwestiynau mis Mawrth yn y papur bro.  Mae’n Swyddog Datblygu’r Iaith Gymraeg gyda Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr.

Yn 2017 collodd bedair stôn mewn pwysau, a dyna’r eiliad a newidiodd ei bywyd.  Meddai Sian Elin “Dyna’r peth gorau dw i erioed wedi gwneud.  Dw i lot yn fwy iach ac yn hapusach.”

Mae wrth ei bodd yn teithio hefyd a’r gwyliau gorau erioed oedd “Teithio De America yn Haf 2018.  Gwledydd anhygoel a mor ddiwylliannol.”

Mae’n datgelu llawer iawn mwy yn y golofn.  Felly mynnwch eich copi o Clonc er mwyn mwynhau’r hyn sydd ganddi i’w rhannu.  Beth yw’r peth gorau am y swydd bresennol?  Beth yw’r peth gwaethaf am yr ardal hon?  Sut fyddai hi’n gwario £10,000 mewn awr?  Sut mae hi’n ymlacio? Beth sy’n rhoi egni iddi?

Mae rhifyn Mawrth Papur Bro Clonc yn y siopau lleol nawr, a diolch i Sian Elin am fod mor barod i ateb y cwestiynau.