Mae canolfan prawf gyrru yn Llanbed yn mynd i gau yn ystod yr haf eleni.
Y dyddiad olaf ar gyfer sefyll prawf gyrru ymarferol yn Llanbed fydd yr 22ain Awst 2019.
Y dyfalu yw bod hyn yn digwydd oherwydd y dymchwelir Canolfan Dulais (hen adeilad yr Agri ar Ffordd Pontfaen) cyn hir er mwyn codi swyddfeydd newydd.
Bu sôn am adleoli’r ganolfan brawf i’r Ganolfan Hamdden yn 2018 wrth i Ganolfan Dulais newid dwylo.Ond does dim son am hynny nawr, dim ond cau yn y dref ac awgrymu mai Caerfyrddin yw’r lle agosaf i sefyll eich prawf gyrru o ddiwedd Awst ymlaen. Does dim unrhyw gyhoeddiad ynglŷn ag ailagor Canolfan Brawf yn Llanbed ar hyn o bryd.
Mae swyddfa’r Aelod Seneddol Ben Lake ar ddeall y bydd y Ganolfan Brawf mewn lleoliad dros dro, ond does dim cadarnhad o hyn eto.
Adroddodd Clonc360 yr wythnos hon fod Canolfan Deuluol Llambed yn adleoli hefyd oherwydd y cynlluniau yng Nghanolfan Dulais.
Ble fydd ein pobl ifanc ni yn gorfod mynd i sefyll eu prawf gyrru ymarferol yn y dyfodol?Golyga hyn gostau ychwanegol o ran gwersi gyrru a sefyll y prawf. Hynny yw, awr ychwanegol bob ffordd er mwyn ymarfer yn rhywle fel Caerfyrddin.A faint yw cost awr o wersi erbyn hyn?
Neu a yw hyn yn beth da?A fydd sefyll eich prawf gyrru yn rhywle mwy fel Caerfyrddin yn golygu gwell profiadau?
Ond mae’r ffaith dal i sefyll ein bod ni’n colli gwasanaeth hanfodol arall yn yr ardal hon sydd fel arfer yn tynnu pobl i’r dref.Beth fyddwn ni’n colli nesaf tybed?
Derbyniwyd y datganiad isod heddiw gan y DVSA yn cadarnhau bod Canolfan Prawf Gyrru Llanbed yn cau:
Mae DVSA yn monitro Canolfannau Prawf Gyrru yn gyson i sicrhau eu bod yn addas at y diben ac y gallwn ddarparu prawf gyrru ystyrlon i’n gyrwyr newydd. Nid yw ardal Llanbed bellach yn ddigonol ar gyfer gofynion prawf gyrru heddiw ac nid yw’n herio gyrwyr sy’n dysgu yn ddigonol nac yn eu paratoi’n llawn ar gyfer amgylchedd gyrru modern. Felly, ni fydd yr adeilad yn ailagor.
Bydd angen i unrhyw un sy’n dymuno archebu prawf gyrru ar ôl 22 Awst archebu yn naill ai Caerfyrddin neu Aberystwyth sydd ill dau tua 20 milltir i ffwrdd o leoliad canolfan brawf Llanbed.