Cymdeithas Hanes Llambed

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Yng nghyfarfod mis Ebrill, daeth Simon Evans, Cwrtnewydd atom am yr ail dro yn ystod y tymor hwn, a hynny er mwyn rhoi’r ail ran o Hanes Plwyf Llanwenog; cyflwyniad cynhwysfawr a diddorol am gymeriadau a fu’n gysylltiedig â’r Plwyf mewn ryw ffordd neu gilydd.

Caed hanes  John Davies, neu Jac Parcyrhos, gŵr a fu’n brwydro yn y rhyfel yn erbyn Napoleon, ac a gyfarfu â’r Duc Wellington ei hun.

Clywyd sut y bu’r newyn mawr yn yr 1840au, a’r prisiau uchel yn dilyn y rhyfel yn effeithio ar ffermwyr cefn gwlad, ac yn gorfodi llawer i godi pac a cheisio bywyd gwell yn yr Unol Daleithau. Pobl megis Margaret Evans o Gwrtnewydd, a droes ei chred at y Mormoniaid, a mentro i dalaith Utah, gan gyrraedd ym 1852 wedi colli sawl aelod o’r teulu yn ystod y daith. Ymfudodd Jenkin Lloyd Jones o Benralltddu, a bu yntau’n chwarae rhan flaenllaw yn y Rhyfel Cartref yn yr Amerig. Cadwodd ddyddiaduron, a rheini ymhen amser yn cael eu cyhoddi mewn llyfr. Troes ei olygon wedi’r frwydr at fod yn weinidog gyda’r Undodiaid, a gweithio fel Cenhadwr.

Ŵyr i Jenkin Lloyd Jones oedd y cynllunydd enwog Frank Lloyd Wright a greodd adeiladau modern iawn, ymhell o flaen ei amser. Mae un o’r adeiladau yn Amgueddfa i’w waith erbyn hyn, a chofiwn iddo roi enw Cymraeg ar nifer ohonynt.

Magwyd ffisegwyr enwog yn y Plwyf, yn arbennig y ddau frawd o Gwmsychbant, y Dr Dafydd Williams, a’i frawd Yr Athro Evan James Williams. Dafydd yn arbenigo mewn gwaith ymchwil yn berthnasol ag awyrennau, gan ddringo’n uchel yn y maes hwnnw; Evan James, neu ‘Desin’ fel yr adnabyddwyd ef yn ffisegydd o fri yng nghyfnod yr ail Ryfel Byd, a’i waith ymchwil ef yn creu trobwynt yn Rhyfel Môr yr Iwerydd.

Yn yr un modd magwyd beirdd a llenorion ym mhlwyf Llanwenog, nid y lleiaf ohonynt oedd Cledlyn Davies, – ef a’i wraig yn teithio’r ardal gan cofnodi hanesion hwnt ac yma, a’u rhoi ar gof a chadw yn ei lyfr gwerthfawr, – ‘Hanes Plwyf Llanwenog’.

Diolchwyd yn gynnes i Simon am noson arbennig o ddiddorol, ac am ei gyflwyniad rhagorol ar Powerpoint gan y Cadeirydd, Selwyn Walters.

Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Fawrth, 21ain o fis Mai pan fydd Wieslaw Gdula yn rhoi hanes y teuluoedd o Wlad Pŵyl a ymsefydlodd yn ardal Llambed. Croeso cynnes i bawb.