Darlith Cymraeg flynyddol Cymdeithas Hanes Llambed

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Gorsaf Pont Llanio, 1972. @TrawsLinkCymru
Gorsaf Pont Llanio, 1972. @TrawsLinkCymru

Cynhaliwyd y ddarlith Gymraeg flynyddol yng nghyfarfod Mis Mawrth, â Sian Jones yn cyfieithu i’r di-Gymraeg. Daeth cynulleidfa luosog i Hen Neuadd y Brifysgol i glywed Mr Lloyd Jones, Ystrad Dewi yn rhoi hanes ei gynefin, sef Llanio a Phont Llanio, a’r bwrlwm fu yno ar un adeg yn ymwneud â’r fusnes menyn a llaeth.

Rhoddwyd hanes Llanio o gyfnod y Rhufeiniaid yn sefydlu campws yno, ac yna’r torfeydd yn dod i’r ardal yn y chweched ganrif adeg Dewi Sant. Neidio ymlaen wedyn i ddyfodiaiad y rheilffordd ym 1866, yn cysylltu’r ardal ag Aberystwyth â Chaerfyrddin ac ymhellach. Codwyd gorsaf rheilffordd yno a thŷ i’r Gorsaf-feistr, hyn yn hwyluso cludiant i fewn ac allan o’r ardal.

Ffatri fenyn a ddatblygodd yno’n gyntaf, yn cyflogi 8-10 o weithwyr i wahanu’r hufen oddiwrth y llaeth, ac yna creu’r menyn. Dros gyfnod o amser, perswadiwyd ffermwyr i gynhyrchu’r menyn yn eu llaethdai eu hunain, a’i werthu i’r ffatri.

Crewyd y Bwrdd Marchnata Llaeth yn yr 1930au, a chodwyd ffatri laeth ym Mont Llanio ym 1937, gan agor yn swyddogol y flwyddyn ganlynol. Casglwyd llaeth dros ardal eang Gorllewin  Cymru, a chyflogwyd dros 120 yno, gan gynnwys yrrwyr i 35 o lorïau, yn cludo’r llaeth mewn churns, cyn ei ddosbarthu ymhellach yn y tanceri ar y rheilffordd. Sychwyd llaeth i wneud llaeth powdwr yn ogystal.

Clywyd am drydan yn dod i’r ardal, ac mae fferm Gogoyan oedd y cyntaf  i fanteisio ar hwnnw. Sefydlwyd Clwb Ffermwyr Ifainc Llanddewi Brefi ym 1941, hwnnw’n rhoi hyder i feibion a merched yr ardal i sefyll o flaen cynulleidfa, a magu sgiliau amrywiol. Y cyfan yn rhan o gymdogaeth weithgar, egnïol a brwdfrydig. Rhoddwyd ambell i stori am gymeriadau’r ardal hefyd.

Caewyd y rheilffordd a’r Ffatri Laeth ym 1970, a throsglwyddwyd y cludiant llaeth, a rhai o’r gweithwyr i Ffatri Laeth Felinfach.

Diolchwyd yn gynnes i Mr Lloyd Jones am noson ddiddorol tu hwnt gan y Cadeirydd, a derbyniodd gymeradwyaeth wresog gan y gwrandawyr. Diolchwyd hefyd i Sian am ei gwasanaeth cyfieithu.

Bydd cyfarfod Mis Ebrill, nos Fawrth yr 16eg o’r mis, pan fydd Mr Simon Evans, Cwrtnewydd yn rhoi ail hanner Hanes Plwyf Llanwenog. Croeso cynnes i bawb. £2 i ymwelwyr.

Amgueddfa Llambed

Bydd yr Amgueddfa yn agor am dymor 2019 Dydd Mawrth, Ebrill 9ed. Gwelir casgliadau newydd unwaith eto a fydd, gobeithio, yn ennyn diddordeb y gymdogaeth yn ogystal â diddordeb ymwelwyr o bell ac agos. Dim esgus i ddweud eich wedi bod yno unwaith o’r blaen!

Mae’n arferol i gasglu hanes un o blwyfi’r ardal, a thro Llanwenog yw hi eleni.

Bydd yno arddangosfa ar y gwaith sydd yn mynd ymlaen yn Ystrad Fflur; Hanes y Ffliw Sbaenaidd a laddodd miloedd ym 1918 wedi diwedd y Rhyfel Mawr; hen feddyginiaethau; creiriau ac hanes ffatri boteli’r Old Quarry; llawer o lestri a gwydr sydd wedi ei gyflwyno i’r Amgueddfa, a chasgliad o ddillad (gweler y llun uchod), sydd wedi eu cyflwyno gan Mr Jim Lloyd, Treforus (Llain, Gorsgoch gynt) er cof am ei chwaer, Sulwen, a’i frawd-yng-nghyfraith Robert Thomas.

Gwelodd Jim y dillad – oedd â chysylltiad ag ardal Cellan – yn cael eu gwerthu, a phenderfynodd eu prynu a’u cyflwyno i’r Amgueddfa. Mae yna ddwy sgert, dwy ffedog, dwy siôl a het uchel yn perthyn i’r casgliad, ac yn yr het mae yna label ‘David Lloyd, Dolgwm House’. Gwnaed tipyn o waith ymchwil, ac mae hanes perchennog y dillad a siop David Lloyd Dolgwm i’w weld yn yr Amgueddfa. Galwch i mewn i’w gweld, ac i gefnogi’r ymdrech sy’n cael ei wneud i gadw a chyflwyno hanes ein hardal. Amserau agor: Dydd  Mawrth a Dydd Iau 10 – 4 ; Dydd Gwener a Sadwrn 11 – 2. Croeso cynnes i bawb.